Ryland yn gadael
Mae Ryland Teifi yn ganwr ac yn actor sy'n gyfarwydd iawn i ni yng Nghymru, yn enillydd Cân i Gymru ac wedi ymddangos mewn amryw ddrama S4C gan gynnwys Pen Talar, Caerdydd ac Y Stafell Ddirgel; ond mae nawr wedi penderfynu rhoi cynnig ar fywyd yn Iwerddon.

Mi fydd Ryland a'i deulu yn ail-ymgartrefi yn An Rinn , cartref genedigol ei wraig Roisin - merch i Bobby Clancy o'r enwog Clancy Brothers.
Mae rhaglen Stiwdio yn ymuno â nhw ar ddechrau eu taith, ac yn rhannu eu cyffro a'u gofidion.
Gyda'i tair merch yn cael eu haddysg drwy gyfrwng iaith newydd mewn ysgol Gaeleg, a Ryland yn ymuno â band newydd mae tro mawr ar fyd i'r teulu Teifi.
Stiwdio: Gwrando ar y rhaglen Ryland yn Gadael


Mae