Argyfwng y Farchnad Dai yng Nghymru
Mae cyfran y prynwyr tro cyntaf yng Nghymru wedi gostwng 75% yn ystod y saith mlynedd diwethaf. Mae na 91,000 o bobl ar restrau tai cyngor awdurdodau lleol Cymreig. Ers argyfwng y banciau, mae na gryn amharodrwydd i fenthyca pres er mwyn prynu cartref heb flaendal sylweddol sy'n amrywio o rhwng 10% i dros 30%.
I lawer o bobl ifanc y bu Manylu'n siarad â nhw mae'n sefyllfa ddigalon heb fawr o oleuni ar y gorwel. Ond mae na gynlluniau mewn ambell i ardal sy'n helpu pobl ifanc i brynu cartrefi fforddiadwy.
Oes modd ehangu'r cynlluniau hynny neu ydi hi'n fater syml o berswadio banciau a chymdeithasau adeiladu i lacio ychydig ar y rheolau er mwyn adfywio'r farchnad dai yng Nghymru?


Mae