« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Daniel Glyn

Categorïau:

Dewi LlwydDewi Llwyd|09:27, Dydd Sul, 5 Mehefin 2011

Ar ddiwrnod ei ben-blwydd - y digrifwr a'r darlledwr Daniel Glyn oedd gwestai arbennig Dewi fore Sul 05.06.11

Daniel Glyn

Gan nad oedd llawer o gyfle i ddathlu pan yn 16, 18 a 21 oed oherwydd ei fod yn sefyll arholiadau pwysig ar y pryd, byth ers hynny mae Daniel wedi gwneud sbloets fawr o'i ben-blwydd!

Cafodd ei ysbrydoli i fentro i fyd y 'stand up' wedi gweld sioe gan Freddie Starr! Roedd wrth ei fodd fod un person gydag un meicroffon yn gallu gwneud i lond theatr o bobl chwerthin (yn ogystal â sylweddoli fod y diddanwr yn gallu gwneud ffortiwn!)

Mae Daniel yn cyfaddef teimlo'n sâl drwy'r dydd cyn gwneud gig 'stand up', gan boeni a fydd ei jôcs yn ddigon da.

Yn gydberchennog cwmni gyda'i frawd Mathew a Gethin Thomas, y prosiect diweddaraf ar y gweill yw 'antur clywedol' ar gyfer plant, 'drama radio' fydd i'w phrynu ar y we gyda Rhys Ifans yn lleisio'r holl gymeriadau.

Ei anrheg pen-blwydd delfrydol fyddai i Pad 2 neu'r gallu i hedfan!

Mae Daniel hefyd i'w glywed bob nos Iau ar C2 Radio Cymru rhwng 10 - 12.