Cyfweliad Penblwydd Tim Rhys Evans
Ers pan oedd o’n 5 oed roedd Tim Rhys Evans a’i fryd ar wneud ei fywoliaeth ym maes cerddoriaeth.

Tim Rhys Evans a Dewi Llwyd
Fe aeth i’r coleg i astudio cyfansoddi cyn newid i astudio canu. Bu’n ganwr operatig am 5 mlynedd ond fe sylweddolodd ei fod yn cael mwy o wefr wrth weithio gyda chantorion eraill.
Yn sgil llwyddiant Only Men Aloud yn y gystadleuaeth Last Choir Standing 3 blynedd yn ol, mae arwain y côr yn waith llawn amser i Tim bellach.
Mae hefyd yn falch iawn o’r gwaith gyda’r cor iau, Only Boys Aloud ond ei freuddwyd fyddai gweld Only Men Aloud yn gor cwbl broffesiynol.
Bu’n son am benblwyddi’r gorffennol yn ogystal a be hoffai gael yn anrheg penblwydd yr wythnos hon gyda Dewi Llwyd.


Mae