« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Heini Gruffudd

Categorïau:

Dewi LlwydDewi Llwyd|13:53, Dydd Mawrth, 31 Mai 2011

Ar drothwy wythnos fawr yn Abertawe, un o bobl y ddinas - Heini Gruffudd oedd gwestai arbennig y bore.

Heini Gruffudd

Fel athro ac awdur mae wedi treulio oes yn dysgu Cymraeg i blant ac oedolion.

Yn wr hynod brysur, ar hyn o bryd mae o'n paratoi llyfr ar hanes diddorol ond trasig ei deulu yn yr Almaen yn y 30au .

O dras Iddewig fe laddwyd ei nain mewn carchar rhyfel, ond fe lwyddodd ei fam i ddod draw i Brydain a chartrefu yn y man yn Abertawe.

Gan obeithio am fuddugoliaeth i dim pel-droed Abertawe yn Wembley fe fydd eisteddfod yr Urdd yr wythnos hon hefyd yn mynd a'i fryd.