Ynni Niwclear - Dim Diolch?
Mis ar ôl i ddaeargryn Japan greu argyfwng niwclear, Manylu sy'n gofyn beth ydi'r oblygiadau i'r diwydiant ynni - ac os ydi hi nawr ar ben ar ynni niwclear.
Wrth i arbenigwyr diogelwch barhau i geisio reoli'r sefyllfa ym mhwerdy Fukushima yn Siapan, ar ôl i'r ddaeargryn a tsunami achosi ffrwydriadau mewn sawl adweithydd, mae yna alw ar roi stop ar ddefnyddio'r dechnoleg.
Mae protestwyr gwrth-niwclear yn dweud bod digwyddiadau yn Japan yn profi na ellir diogelu gorsafoedd niwclear rhag damweiniau a bod peryglon ymbelydredd yn rhy ddifrifol i gyfiawnhau parhau i'w ddefnyddio.
Ond heb niwclear, sut mae cyflenwi ein galw cynyddol am drydan mewn cyfnod pan mae llywodraethau ar draws y byd yn ceisio lleihau'r defnydd o danwydd ffosil oherwydd pryderon am gynhesu byd eang?
Oes yna opsiynnau realistig ar gyfer rwan - a'r dyfodol? Neu ydi cefnogwyr niwclear yn iawn i ddadlau bod y diwydiant yn ddiogel - a heb niwclear, byddai'r goleuadau yn dechrau diffodd ar draws y wlad?
Manylu, nos Lun, Radio Cymru.


Mae