« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Pobl Ifanc yn holi'r Gwleidyddion

Categorïau:

Criw ManyluCriw Manylu|09:06, Dydd Mercher, 20 Ebrill 2011

Heno, ar drothwy etholiadau'r Cynulliad, fe glywn ni gan nifer o bobl ifanc am eu pryderon nhw am y dyfodol - o ddisgyblion ysgol i weithwyr ieuenctid. Beth yw'r pynciau llosg sy'n eu poeni?

Catrin Gerallt sy'n holi gwleidyddion o'r bedair brif blaid yng Nghymru sef:

* Alun Davies ar ran y blaid Lafur

* Suzy Davies ar ran y Ceidwadwyr

* Nerys Evans o Blaid Cymru

* a Rhys Jones gwleidydd ifanc sy'n cynrychiolu'r Democratiaid Rhyddfrydol

Manylu, nos Lun, 1804, Radio Cymru.