« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Her Fwyaf Cymdeithas?

Categorïau:

Criw ManyluCriw Manylu|10:29, Dydd Llun, 4 Ebrill 2011

Ymhen ugain mlynedd bydd dros treian o boblogaeth Prydain dros 65 oed ac yn byw yn hirach na mae nhw heddiw. Ond mewn hinsawdd economaidd anodd iawn dros y blynyddoedd beth fydd y ffordd orau i ofalu amdanynt?

Ar hyn o bryd, mae na lawer mewn ysbytau, ac eraill mewn cartrefi preswyl ond mae amryw o rheini'n gorfod cau. Ydi hi'n ymarferol ac yn gost effeithiol i ofalu am hen bobl yn ei cartrefi ei hunain?

Fe ddweodd amryw o deuluoedd wrth Manylu bod na ormod o fiwrocratiaeth a gormod o ddyblygu asesiadau ar gyfer unigolion bregus. Yn waeth na hynny medd rhai beirniaid mae na loteri côd post ynglyn â'r hyn sy'n digwydd neu'n gallu digwydd o un rhan o Gymru i'r llall.

Beth felly yw'r ateb?

Manylu heno toc wedi chwech.