« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Cyfweliad penblwydd John Hartson

Categorïau:

Dewi LlwydDewi Llwyd|11:10, Dydd Sul, 3 Ebrill 2011

Cyn dathlu ei benblwydd yn 36 oed bu John Hartson yn son am ei ddyddiau fel peldroediwr yn ogystal â thrafod ei gyfnod anodd wrth ddelio gydag effaith canser y ceilliau.

John Hartson

Mae'n parhau yn ddiolchgar iawn am yr holl gyfarchion a dymuniadau da a dderbyniodd tra yn dioddef o'i salwch. Roedd y canser wedi lledaenu drwy ei gorff, ond mae'n eithaf sicr pe bai wedi mynd at y meddyg ynghynt yn hytrach nag anwybyddu'r symptomau, sef lympiau ar ei geilliau, byddai wedi dioddef llawer llai. Er mwyn codi ymwybyddiaeth o'r canser arbennig hwn mae John wedi sefydlu elusen - John Hartson Foundation.

Yn gyn-chwaraewr i amryw o glybiau gan gynnwys Arsenal, Celtic a West Ham, o edrych yn ol ar ei yrfa fel pel-droediwr yr uchafbwynt heb amheuaeth oedd cael chwarae i Gymru. Cafodd 51 cap dros ei wlad. Byddai'n ystyried rheoli yn y dyfodol, ond ar hyn o bryd mae'n mwynhau ei hun yn cael cyfle i sylwebu ar y gem ar amrywiol raglenni teledu. Yn dad i 4 o blant, dau o'i briodas gyntaf a dwy o'r ail - mae wrth ei fodd fod ei fab yn mwynhau ac yn dangos tipyn o ddawn ym maes pel-droed!

Nid yn annisgwyl, ei anrheg pen-blwydd delfrydol fyddai cael iechyd da am flynyddoedd i ddod.