Archifau Chwefror 2011

Edrych nôl ar y Clwy'

Categorïau:

Criw ManyluCriw Manylu|09:30, Dydd Mawrth, 22 Chwefror 2011

Sylwadau (0)

Yn rhifyn yr wythnos yma o Manylu, mae Sian Pari Huws yn edrych 'nôl i'r cyfnod pan gafodd Cymru ei tharo gan glwy'r traed a'r genau.

Gan ddefnyddio archif o'r cyfnod, ac atgofion o'r haint ddeng mlynedd yn ôl mae pobol yn ail-fyw'r poen meddwl a gafodd ei chreu i amaethwyr a phobol fusnes fel ei gilyddenfawr lle oedd anifeiliaid yn cael eu claddu.

MANYLU heno, nos Lun Chwefror 21ain, toc wedi chwech.

Adolygiad o Gadael yr Ugeinfed Ganrif

Categorïau:

Dewi LlwydDewi Llwyd|10:16, Dydd Llun, 21 Chwefror 2011

Sylwadau (0)

Sioned Williams fu'n gwylio perfformiad Gareth Potter - Gadael yr Ugeinfed Ganrif . Bydd y sioe ar daith hyd Fawrth 17.

Darlledwyd yr adolgyiad ar 20.02.11

Cyfweliad Dyfed Thomas

Categorïau:

Dewi LlwydDewi Llwyd|10:11, Dydd Llun, 21 Chwefror 2011

Sylwadau (0)

Ar drothwy ei benblwydd bu'r actor Dyfed yn hel atgofion am blentyndod o serennu yn chwarae peldroed a'r dagrau yn 16eg oed pan wrthododd ei dad iddo ymuno a chlwb peldroed Wrecsam ar gytundeb llawn amser.

Erbyn hyn mae'n ddiolchgar am yr ymyrraeth neu efallai mai cadw tafarn yn Hull a fyddai o erbyn hyn wedi ymddeol o'r gem!

Yn dilyn ei benderfyniad i astudio drama mae o'n ddiolchgar am yr amrywiaeth o waith actio a ddaeth i'w ran.

Portreadu Brian Lloyd Jones yn y gyfres Siop Siafins roddodd y mwyaf o bleser iddo, ac er actio led led Prydain mae'n feirniadol o'r diffyg cyfle ar adegau yng Nghmru.

Mae crefydd wedi chwarae rhan bwysig yn ei fywyd a thros y blynyddoedd mae Dyfed wedi cael budd mawr o weddi.

Dros y misoedd nesaf fe fydd Dyfed yn brysur yn cymryd rhan yn sioe ddiweddara'r Theatr Genedlaethol - Deffro'r Gwanwyn, yn atgyfodi sioe Hywel Ffiaidd ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol a ffilmio ei ffilm ddiweddaraf yn yr India.

Hanes Dwy Ddinas

Categorïau:

Criw ManyluCriw Manylu|14:26, Dydd Llun, 14 Chwefror 2011

Sylwadau (0)

Bydd Manylu heno yn clywed barn arbenigwr busnes bod angen gweithio'n galetach i hybu economi Cymru, yn sgil adroddiad diweddar sy'n awgrymu mai Casnewydd ag Abertawe ydi dwy o'r dinasoedd gwanaf ym Mhrydain.

Mae'r ddwy ddinas yn fregus, yn ôl yr adroddiad am bod nifer uchel o bobol yn hawlio budd-daliadau yno, a nifer uchel yn gweithio yn y sector gyhoeddus , ble mae swyddi'n debygol o ddiflannu o ganlyniad i doriadau'r llywodraeth.

Mae llywodraeth San Steffan am i'r sector breifat lenwi'r bwlch pan fo hynny'n digwydd. Bu Manylu yn siarad gydag un o reolwyr y Celtic Manor - gwesty sy'n cyflogi 700 o bobol ar gyrrion Casnewydd - i weld ydi hynny'n debygol o ddigwydd.

Yn ôl un ymgynghorydd busnes Roy J. Thomas mae angen gwneud llawer mwy o ymdrech i wella economi Cymru ac awgryma nad oes digon o ymdrech yn cael ei wneud i ddenu busnesau mawr yma.

MANYLU heno, gydag Alwen Williams, nos Lun Chwefror 14eg, toc wedi chwech.

Cyfweliad Menna Richards

Categorïau:

Dewi LlwydDewi Llwyd|10:07, Dydd Llun, 14 Chwefror 2011

Sylwadau (0)

Cyfle i gael digon o amser i ddarllen papur yn y bore, dyna un peth mae Menna Richards yn edrych ymlaen at ei wneud yn sgil ei hymddeoliad, wedi 11 mlynedd fel pennaeth BBC Cymru.

Menna Richards

Yn ystod ei sgwrs gyda Dewi mae'n sôn am y sioc a gafodd pan glywodd y byddai BBC Cymru'n gyfrifol am ariannu S4C, ymateb cas gan bobl pan gyhoeddwyd ei chyflog a'r boddhad fod cymaint o dalent o fewn y gorfforaeth yng Nghymru.

Mae hefyd yn hel atgofion am y modd dilornus roedd merched yn cael eu trin yn y BBC flynyddoedd yn ôl ac am effaith ei magwraeth ym Maesteg arni.

Er yn gadael y BBC fydd Menna ddim yn gwbl segur gan ei bod wedi cytuno i ymuno â bwrdd Cwmni Opera Cymru a Glas Cymru.



Adolygiad Celfyddydau 13/02/2011

Categorïau:

Dewi LlwydDewi Llwyd|10:02, Dydd Llun, 14 Chwefror 2011

Sylwadau (0)

Adolygiad gan Beca Brown o arddangosfa Kyffin Williams yn Oriel Mon sydd i'w gweld yno tan fis Medi 2011.

Yn ogystal a lluniau Rolff Harris sydd hefyd yn cael eu harddangos yn yr oriel i gyd fynd a rhaglen deledu Rolf on Welsh Art gan BBC Cymru.

Adolygiad Celfyddydau 06.02.11

Categorïau:

Dewi LlwydDewi Llwyd|10:36, Dydd Mawrth, 8 Chwefror 2011

Sylwadau (0)

Catrin Beard sy'n trafod Arddangosfa - Cerfiadau Carreg Hynafol o Dazu, Tsieina yn Yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd.

Mae'r arddangosfa ymlaen hyd Ebrill 3ydd 2011

Cyfweliad Penblwydd Mari Emlyn

Categorïau:

Dewi LlwydDewi Llwyd|10:32, Dydd Mawrth, 8 Chwefror 2011

Sylwadau (0)

Mae darlun Mari o brifddinas ei magwraeth yn y 60au yn un gwahanol iawn i ddelwedd Caerdydd heddiw.

Gan wneud rhywfaint o berfformio yn y capel ac yn ysgol gynradd Bryn Taf, yn yr Ysgol Uwchradd yn Llanharri oedd hi pan benderfynodd ei bod a'i bryd ar actio.

Cynhyrchiad Theatr Cymru o Siwan a'i hudodd a chymaint y dylanwad fe aeth i astudio drama i Lundain. Er cael nifer o rannau gyda Bara Caws, Cwmni Hwyl a Fflag a Theatr Gwynedd chafodd hi erioed y cyfle i chwarae rhan Siwan ei hun, ond fe fyddai'n hapus iawn cael y cynnig o hyd!

Ers 7 mlynedd actio cymeriad Jackie yn Rownd a Rownd sydd wedi bod yn ei chadw'n brysur.

Yn awdures ar ddwy nofel, a llyfrau ar y Wladfa ei hanrheg penblwydd delfrydol fyddai petai modd iddi hi ei gwr Emyr (Himyrs) a'u meibion gael gwyliau ar y cyd yn Y Wladfa.

Difetha'r Amgylchedd

Categorïau:

Criw ManyluCriw Manylu|10:21, Dydd Mawrth, 8 Chwefror 2011

Sylwadau (0)

Ymchwiliad arbennig i'r broblem gynyddol o sbwriel anghyfreithlon neu " fly tipping."

Er yr holl sylw sy'n cael ei roi i ail gylchu a'r pwyslais mawr ar bobl yn gwahanu mathau gwahanol o sbwriel er mwyn ei wardeu'n ddiogel neu ei ail gylchu mae na fwy a mwy o bobl sy'n poeni dim am reolau a chanllawiau o'r fath. Mae "fly tipping" yn broblem fawr a chynyddol ar hyd a lled Cymru.

Erbyn hyn mae'n costio'n agos i £3 miliwn y flwyddyn i drethdalwyr Cymru i'w waredu. Mae bob math o sbwriel gan gynnwys dodrefn tai, offer trydannol yn ogystal a sbwriel cartref yn cael ei ollwng ar ochr ffordd, ar hyd glannau afonydd ac mewn coedwigoedd neu gaeau ar hyd a lled Cymru. Os nad yw ar ochr ffordd gyhoeddus, yna yn gam neu'n gymwys cyfrifoldeb perchennog y tir sy'n gyfrifol am gael gwared ohonno.

Yn yr hinsawdd economaidd bresennol a'r disgwyl am doriadau mawr yn y gwasanaethau hynny sy'n gofalu am yr amgylchedd mae'n anochel y bydd y broblem o "fly tipping" yn cynyddu yn y dyfodol agos.

MANYLU heno, nos Lun Chwefror 7fed, toc wedi chwech.

Refferendwm - Ie neu Na?

Categorïau:

Criw ManyluCriw Manylu|10:21, Dydd Mawrth, 1 Chwefror 2011

Sylwadau (0)

Gyda mis i fynd cyn y Refferendwm ar gael mwy o bwerau i'r Cynulliad - faint o ddiddordeb sydd? A pha wahaniaeth fydd y bleidlais yn ei wneud i ni sy'n byw yng Nghymru?

Catrin Gerallt sydd yn holi pedwar sydd a gwybodaeth fanwl am y sefyllfa:

Alun Davies A.C., Dr Huw Lewis o Adran Wleidyddiaeth Prifysgol Aberystwyth, Syr Eric Howells, cyn Gadeirydd y Ceidwadwyr Cymreig, ac Owain Davies o gymdeithas y cyflogwyr neu'r CBI yng Nghymru.

MANYLU heno, nos Lun Ionawr 31ain, toc wedi chwech.