Hanes Dwy Ddinas
Bydd Manylu heno yn clywed barn arbenigwr busnes bod angen gweithio'n galetach i hybu economi Cymru, yn sgil adroddiad diweddar sy'n awgrymu mai Casnewydd ag Abertawe ydi dwy o'r dinasoedd gwanaf ym Mhrydain.
Mae'r ddwy ddinas yn fregus, yn ôl yr adroddiad am bod nifer uchel o bobol yn hawlio budd-daliadau yno, a nifer uchel yn gweithio yn y sector gyhoeddus , ble mae swyddi'n debygol o ddiflannu o ganlyniad i doriadau'r llywodraeth.
Mae llywodraeth San Steffan am i'r sector breifat lenwi'r bwlch pan fo hynny'n digwydd. Bu Manylu yn siarad gydag un o reolwyr y Celtic Manor - gwesty sy'n cyflogi 700 o bobol ar gyrrion Casnewydd - i weld ydi hynny'n debygol o ddigwydd.
Yn ôl un ymgynghorydd busnes Roy J. Thomas mae angen gwneud llawer mwy o ymdrech i wella economi Cymru ac awgryma nad oes digon o ymdrech yn cael ei wneud i ddenu busnesau mawr yma.
MANYLU heno, gydag Alwen Williams, nos Lun Chwefror 14eg, toc wedi chwech.


Mae