Ydych chi wedi ymweld â’n gwefan Darganfod eto?
Darganfod yw cartref newydd cynnwys gwybodaeth a dysgu BBC Cymru, sy’n cynnwys hanes, gwyddoniaeth, celfyddydau, yr iaith Gymraeg a llawer mwy.
Mae’n ran o gynllun ar draws y BBC sy’n clymu cynnwys ffeithiol a dysgu at ei gilydd i greu siwrne ddysgu llyfn, syml a hwyliog.
Fel rhan o’r prosiect yma, mae yna hafan newydd ar gyfer cynnwys dysgu’r BBC. Mae hwn yn cynnwys adnoddau fel ‘Class Clips’, sy’n chwilio am glipiau archif a diweddar o raglenni cyffredinol y BBC, a chynnwys dysgu fel ‘Bitesize’.
Mi fydd y system yma yn cael ei datblygu yn fuan i alluogi chwilio yn ieithoedd cynhenid y DU yn cynnwys Cymraeg ond, yn y cyfamser, gallwch chi ddal i ddefnyddio Clipiau i Athrawon.
Gallwch ddarllen mwy am y prosiect yma ar ddarn blog Chris Sizemore sef golygydd gweithredol Knowledge & Learning (Saesneg).
