Tynged yr wythnos
Ar Saunders Lewis, pum darlithydd newydd a rhagor o Saunders Lewis a thynged iaith y bu pwyslais yr wythnos. Dyma rai dyfyniadau am hynny ac ambell i beth arall . . .
- Tynged yr Iaith; bu’n gatalydd i achub math o Gymreictod. Ond fel ateb i dynged yr iaith, yr oedd y targed yn un anghywir. Ni all unrhyw iaith fyw ar sail un dosbarth yn gweithio mewn un sector gyflogaeth – Guto Bebb AS y cyntaf o bum darlithydd ar Radio Cymroar achlysur hanner canmlwyddiant darlith radio Saunders Lewis. Dywedodd mai chwyldro ymhlith y dosbarth canol yn unig achoswyd gan y ddarlith.
- Efallai mai nad y cysyniad o le ydi’r peth pwysicaf . . . Onid yr hyn y mae pobl yn ei wneud â’u hiaith a’u Cymreictod sy’n cyfrif? Mae hynny’n wir ym mhob maes, boed yn y dre, yn y wlad neu’r ddinas. Neu, yn wir, ar y rhyngrwyd. Mae ffenomenon fel Twitter, sy’n gymuned ynddi hi’i hun, yn enghraifft wych o’r modd y mae’r Gymraeg wedi hawlio’i lle yng nghanol môr o drydar byd-eang - Rhys Iorwerth, yr ail ddarlithydd.
- Oherwydd diofalwch gwleidyddol (dwn i ddim pam) mae arweinwyr y sianel [S4C] wedi bod yn afrad gyda’r cyfalaf diwylliannol a roddwyd iddyn nhw fel braint, nid busnes- Gwyneth Lewis, y trydydd i ddarlithio. Gofidiai mai “methiant mwyaf” ei chenhedlaeth hi o siaradwyr Cymraeg yw yr hyn a alwodd “y gostyngiad trychinebus yn ansawdd rhaglenni a nifer gwylwyr S4C”.
- Y gwir am Tynged yr Iaith yw mai’r weithred o sefydlu Cymdeithas yr Iaith a rydd arwyddocâd hanesyddol iddi. Pe na sefydlwyd y Gymdeithas, fe fyddai Tynged yr Iaith yr un mor anghofiedig heddiw ag ysgrifau eraill Saunders Lewis ar y Gymraeg. Nid darlith am dynged yr iaith sydd yma, ond darlith am dynged y mudiad iaith, sef am y bobl sydd am adfywio’r Gymraeg, a’u tactegau – Simon Brooks y pedwerydd i ddarlithio.
- Fydd dim ofn arna’i bwyso ar sefydliadau i gydymffurfio. Fydd dim ofn arna’i herio neu wthio ffiniau. Fydd dim ofn arna’i ddefnyddio fy mhwerau gorfodi, ac – ie – cosbi hefyd lle bydd angen. Byddaf yn llais dros yr iaith Gymraeg, yn eiriol dros siaradwyr Cymraeg. Dyna fy addewid, a dyna fy mraint – Meri Huws y pumed darlithydd a fydd yn cychwynyn ei swydd fel Comisiynydd Iaith Ebrill 2.