'Tynged' yn glasur
Efallai ichi sylwi dros y dyddiau diwethaf ar ambell i gyfeiriad at y ffaith ei bod hi yn hanner can mlynedd union ers i Saunders Lewis draddodi ei ddarlith, Tynged yr Iaith.
Diddorol sylwi mai sôn am “nodi” neu “gofnodi’r” digwyddiad a wneir yn hytrach na’i “ddathlu” ac fel rhan o’r nodi hwnnw mae Gwasg Gomer wedi cyhoeddi argraffiad Rhwymiad cain o’r ddarlith mewn cydweithrediad â Chymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Dyma’r gyfrol ddiweddaraf yng nghyfres “clasuron” y Wasg gan ddilyn yn ôl troed Dail Pren Waldo Williams a Cherddi, T H Parry-Williams.
Yn ffodus, mae’n fwy nag ailargraffiad moel o’r ddarlith ac yn cynnwyshefyd ragymadrodd craff a threiddgar gan Ned Thomas, rhagair gan Meredydd Evans, rhagair gan Karl Davies i drydydd argraffiad a gyhoeddwyd yn 1985 a rhagair gan Saunders Lewis ei hun i ail argraffiad a gyhoeddwydyn 1972.
I gloi’r gyfrol mae sgript sgwrsa recordiwyd rhwng Saunders Lewis a Meirion Edwards a ddarlledwyd fis Hydref 1968 ac a gyhoeddwyd wedyn yn rhifyn Rhagfyr y flwyddyn honno o Barn.
Basgedaid ddifyr o 80 o ddalennau.
Yn ei ragymadrodd mae Ned Thomas yn ein hatgoffa mai ymdrech bwrpasol oedd y ddarlith i ddylanwadu ar Blaid Cymru i newid ei chyfeiriad a’i dulliau gweithredu ac mae’n cofnodi ymateb Gwynfor Evans mai “prysuro’r diwedd a wnâi dulliau chwyldroadol fel polisi yn ein sefyllfa anchwyldroadol ni, o leiaf pe’u mabwysiedid gan Blaid Cymru”.
Fe’n hatgoffir hefyd o’r argraff a wnaeth safiad teulu’r Beasleys o Langennech ar Saunders Lewis ei hun a’r parch oedd ganddo iddynt.
Mae Ned Thomas yn camu ’mlaen wedyn i fynd i’r afael ag arwyddocâd y ddarlith i ni heddiw hanner canrif wedi ei thraddodi gan ddadlau nad fel clasur marw y mae’n perthyn inni “ond fel testunsydd ar gael i ni yn y presennol: i ddethol ohono, i’w ddehongli, i’w wrthod yn rhannol neu’n gyfan gwbl”.
Meddai: “Mi fydd yn glasur byw os bydd yn ysgogi trafodaeth bellach a gweithredu pellach. Y deyrnged orau i awdur y ddarlith fydd inni fod mor onest ag y gallwn wrth ei thrafod.”
Mae’n nodi tri phwnc yn y ddarlith “sydd i mi yn dal i bigo’r gydwybod a herio’r deall”.
Mae hyn oll yn ei arwain at y casgliad bod adennill iaith yn dibynnu ar yr hyn y mae’n ei alw yn “ddeinameg gyson a chynyddol” sy’n gofyn am newid a sefydliadau – a’r cwestiwn amlwg sy’n codi wedyn yw, wrth gwrs,
“Ydy’r amgylchiadau gwleidyddol a’r ewyllys wleidyddol yn bodoli yng Nghymru i greu’r ddeinameg honno?”
Dywed: “Oni welir bod mwy a mwy o gyfle i ddefnyddio’r Gymraeg mewn mwy a mwy o feysydd, mi fydd iaith a ddysgwyd yn yr ysgol yn aros i lawer yn iaith gefndir ac yn symbol cenedlaethol . . . [yn] flag language.
Mae’n cloi gyda rhybudd o bwysigrwydd “mamwlad” neu “hinterland” Gymraeg – yn ychwanegol at bresenoldeb lleiafrif Cymraeg yn y brifddinas a chanolfannau grym - i barhad yr iaith ac fel modd i ddysgu’r Cymry Cymraeg i feddwl amdanynt eu hunain a threfnu eu hunain fel un grŵp ieithyddol.
- Cyhoeddir Tynged yr Iaith gan Saunders Lewis, Rhagymadrodd gan Ned Thomas,gan Wasg Gomer. £7.99. 80 tudalen.

