« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Ac yn dwedyd

Categorïau:

Glyn Evans|11:24, Dydd Gwener, 10 Chwefror 2012

Bagiau plastig, S4C, rygbi, gwallt Savage a chyfrinach priodas berffaith. Detholiad arall o bethau a ddywedwyd ac a sgrifennwyd yn ystod yr wythnos. A gwahoddiad, fel arfer, i chi ychwanegu atyn nhw neu ymateb iddyn nhw

  • Roedd arwyddo'r cytundeb hwn yn un o benderfyniadau hawsaf fy mywyd – Brendan Rogers yn penderfynu aros gyda thîm pêl-droed yr Elyrch yn Abertawe tan 2015.
  • Yng Nghaernarfon yr oedd yn glir bod gogledd a de Cymru – gwledig yn erbyn trefol, Cymraeg yn erbyn Saesneg,ôl-amaethyddol yn erbyn ôl-ddiwydiannol – yn casáu ei gilydd – Stephen Moss yn y ‘Guardian’ ddydd Llun. Dywedodd hefyd mai Coventry mewn cystadleuaeth â Chaernarfon oedd y lle mwyaf dilewyrch iddo ymweld ag ef yn ystod taith o amgylch Prydain.

  • Dwi erioed wedi gwneud dim byd er mwyn ennill arian. Dw i wastad wedi derbyn swyddi a mynd ar ôl swyddi oherwydd yr her a’r sialens – Ian Jones, Prif Weithredwr S4Cmewn cyfweliad gyda Golwg.

  • Gwasanaeth ydi S4C yn y lle cyntaf ond mae’n rghaid dod at hynny gydag agwedd busnes – Ian Jones, Prif Weithredwr S4C mewn cyfweliad yn Y Cymro.

  • Y gwir amdani ydi ’mod i’n mynd i siopa’n amlach dros y ffin erbyn hyn am y rheswm syml eu bod nhw’n dal i roi bagiau plastig am ddim – Elin Llwyd Morgan yn rhifyn Chwefror o Barn

  • Mae rhai eglwysi yn neilltuo yr wythnos hon fel Wythnos Priodas. Sylfaen priodas dda . . . yw’r geiriau o’r Gwasanaeth Pridas, yr wyf yn addo bod yn ffyddlon yn fy nghariad, yn dyner yn fy ngofal ac yn onest a chywir ym mhob peth – Dalen flaen Y Goleuad.

  • Gwelsom fod cael tynnu pwythau wythnos wedi anaf yn adeg lle mae modd addysgu - Yr Athro Jonathan Shepherd o Adran Ymchwil Trais a Chymuned Prifysgol Caerdydd yn trafod cynllun sy’n galw ar nyrsysi wneud pobl yn ymwybodol o beryglon yfed.
  • Nid dim llai na chwyldroad yw adfer yr iaith Gymraeg yng Nghymru. Trwy ddulliau chwyldro yn unig y mae llwyddo. Efallai y dygai’r iaith hunan-lywodraeth yn ei sgil: ‘wn i ddim. Mae’r iaith yn bwysicach na hunan-lywodraeth – Bydd geiriau Saunders Lewis mewn darlith hanner can mlynedd yn ôl yn destun trafod mawr yr wythnos nesaf.

  • Be sy’n ddoniol yw na fydda i byth yn bwyta ‘fishcakes’ a doeddwn i ddim wedi cael un cyn hon a fyddai ddim yn cael un arall eto – Stephen Jones o Langefni Ynys Môn wedi iddo ddarganfod llyngyren mewn ‘fishcake’ a brynodd o siop.

  • Yr ydw i’n hoffi’r dyfyniad gan wraig o Aberdaron ym Mhen Llŷn yn dweud ‘Na’ pan ofynnwyd iddi a fuhi erioed yn Llundain. “Yr ydw i’n gweld y lle yn bell iawn o bob man,” medda hi – Selwyn Jones yn y ‘Daily Post’ ddydd Llun.

  • Mae’r gwaith ymhell o fod wedi ei orffen – Carl Sargeant, y gweinidog Lywodraeth Leol, yn cyhoeddi y bydd comisiynwyr yn gofalu am Gyngor Ynys Môn am flwyddyn arall.

  • Mae fel gwneud un pryd o fwyd ond bod un o’r gwesteion yn llysieuwr, un yn vegan ac un arall ar Atkins DietPwyll ap Siôn yn disgrifio yn atodiad Yr Herald Cymraeg yn y ‘Daily Post’ ei waith diweddaraf i Opera Cenedlaethol Cymru.

  • Wrth daflu Gerallt Pennant a Meinir Gwilynm ar y clwt a sôn am arlwy mwy ‘tabloid’ mae S4C yn croesi ffin bendant ac mae’n gwbl annerbyniol – Angharad Tomos yn atodiad Yr Herald Cymraeg yn y ‘Daily Post’.

  • Roeddwn am greu tafarn y byddwn i'n hoffi mynd iddi a thafarn sy'n canolbwyntio ar gwrw yn hytrach na bwyd – Peter McGivern, tafarnwr The Bridge End Inn, Rhiwabon a ddewiswyd yn dafarn orau Prydain gan CAMRA, yr ymgyrch cwrw go iawn.

  • Arferai maestro Cymru ar yr asgell fod yn ddewin bach yn awr mae’n anghenfil ar garlam gwyllt – Ian Chadband, Prif Ohebydd Chwaareon y ‘Daily Telegraph’ ddydd Llun yn cymharu Shane Williams a George North.

  • Rhoddais y cyfan a allwn i i’r tîm ond dydw i ddim yn meddwl imihaeddu gwobr Chwaraewr y Gêm. Yr oedd yna gymaint o fechgyn a chwaraeodd yn dda ac yr oedd cwpl o gyffyrddiadau George North o safon byd -Mike Phillips yn dilyn y gêm yn erbyn Iwerddon.

  • Yr ydym yn mynd i lawr yno gyda’r bwriad o gau’r to a chwarae – Ross Ford, capten Yr Alban, yn gobeithio chwarae gyda tho Stadiwm y Mileniwm ynghau ddydd Sul.

  • Wel, be allai ddweud? Robbie Savage ydi Robbie Savage. Wn i ddim sut y gall neb garu ei wallt gymaint ag y mae o’n i wneud – Pasha Kovalev o Strictly Come Dancing yn y ‘Daily Post’ heddiw ar drothwy perfformiad gyda Katya Virshilas yn Y Rhyl.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.