« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Juan a cherddi eraill

Categorïau:

Glyn Evans|11:45, Dydd Llun, 26 Mawrth 2012

Pwy allai wrthsefyll temtasiwn casgliad bach o farddoniaeth a gyhoeddwyd ym Mhatagonia ychydig yn ôl.

Gyda theitl fel Juan y Gwanaco a Cherddi Eraill doedd yna ddim dewis ond prynu.

Ac mi gefais innau fodd i fyw o syrthio i demtasiwn – a chyfaddef wrth gwrs fod gen i ddiddordeb personol mewn unrhyw beth o’r Wladfa ym Mhatagonia.

Ta beth cyfrol ydi hon, wedi ei golygu gan Esyllt Nest Roberts de Lewis, o gerddi i blant Patagonia ac wedi ei cyhoeddi gan Orsedd y Wladfa.

Mae yna gerddi gan rai o Batagoniafel Osian Hughes, Mary green, Irma Hughes de Jones, Arel Hughes de Sarda ac athrawon o Gymru a beirddamlwg o Gymru ei hun gan gynnwys Iwan Llwyd , Mererid Hopwood, Gwion Hallam, Gwyneth Glyn a Grahame Davies.

Mae nodyn bywgraffyddol byr am y cyfranwyr i gyd - 23 ohnyn nhw – ar ddiwedd y gyfrol.

“Mae’r cyfan ohonynt bron wedi eu cyfansoddi’n arbennig ar gyfer y gyfrol hon,” meddai Esyllt Nest Roberts de Lewis am y cerddi.

Daw hi gyda llaw o Bencaenewydd, Pen Llŷn, ond yn byw gyda’i theulu yn y Gaiman er 2004. Hi yw golygydd Y Drafod ac enillodd Gadair Eisteddfod y Wladfa 2010.

Clare Whitehouse sydd biau’r gerdd yn nheitl y gyfrol am Juan y Gwanaco, hi yn dod o Abermorddu ger Wrecsam ac yn athrawes Gymraeg yn Esquel a Threvelin fel rhan o’r cynllun iaith.

Cyfrol fach delynegaidd, hyfryd, Gwladfaol ei naws a'i blas ac ar gael mewn siopau llyfrau Cymraeg yng Nghymru.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.