Llond hosan o dwrci a chelyn
Gwahoddiad i roi eich troed mewn hosan llawn twrci a chelyn. Yn naturiol mae tipyn o flas y Dolig ar ein pwdin o ddyfyniadau yr wythnos hon.
Mae’n gyfle hefyd i ddymuno Nadolig Llawen a bendithyr Ŵyl ichi gyd.
A’r gwahoddiad arferoli chi ychwanegu at y dewis o ddyfyniadau . . .
- Nac ofnwch; canys wele yr wyf fi yn mynegi i chwi newyddion da o lawenydd mawr, yr hwn a fydd i’r holl bobl. Canys ganwyd i chwi heddiw Geidwad yn ninas Dafydd yr hwn yw Crist yr Arglwydd . . . Chwi a gewch y dyn bach wedi ei rwymo mewn cadachau, a’i ddodi yn y preseb – Neges yr angel i’r bugeiliaid yn ôl Luc 2:10.
- Peidiwch a phanicio – y Parchedig Harri Parri yn ‘Papur Dre’ yn cofio geiriau’r Angel mewn perfformiad o ddrama’r geni yng Nghaernarfon.
- Pe byddai’r tri gŵr doeth wedi bod yn ferched fe fydden nhw wedi stopio i ofyn y ffordd a chyrraedd mewn pryd i helpu gyda genedigaeth y Baban Iesu a chlirio’i fyny wedyn; gwneudcaserol a rhoi anrhegion buddiol i Fair – Y ‘Western Mail’ ddydd Llun yn dyfynnu neges destun a dderbyniwyd gan Radio 2.
- Bachgen barus yn gwneud twll yng ngwaelod ei hosan gan feddwl twyllo Siôn Corn. Be gafodd o yn ei hosan? Pâr o sanau newydd! – Twm Morys yn ailadrodd stori dymhorol gan ‘Cremlyn’ ei golofn farddol yn ‘Y Cymro’.
- Yn yr Eidal mae plant yn rhoi eu hesgidiau'n barod i dderbyn anrhegion dros y Nadolig ond os ydyn wedi bod yn ddrwg yna cerrig a lludw sydd yn cael eu gadael - Vanessa Baldry o Europe Direct sy’n gofalu am goeden Nadolig ryngwladol yn Llangollen y cymerodd plant o 196 o ysgolion yn 19 o wledydd Ewrop ran yn ei haddurno.
- Testun cywilydd heb os. Mae’r syniad o deimlo siom wrth dderbyn rhodd yn beth ffiaidd. Ond dylwn gyfaddef bod derbyn meicrosgop, a finne’n wyddonydd di-glem ac anobeithiol, wedi fy siomi’n arw. Gobeithio na ddangosais fy nheimladau – Huw Edwards, ar ddalennau cydenwadol y papurau crefyddol, yn cofio’r anrheg Nadolig â’i siomodd fwyaf.
- Fy hoff gymeriad yn stori’r Geni ydi Herod – mae’n fy ngorfodi i edrych arnaf fy hun a gweld cymaint o’r Herod yn ei holl agweddau sydd ynof i – Y Parchedig Iwan Llewelyn Jones, Porthmadog,ar yr un dalennau yn dewisei hoff gymeriad, ar wahân i’r Iesu yn stori’r Geni.
- Byddai 42% o ferched a 23% o ddynion a oedd yn dyheu am gael bod yn Fair a Joseff yn nrama’r geni erbyn hyn yn dewis bod yn Herod – ‘Y Goleuad’ yn dyfynnu canlyniad arolwg gan Christian Research.
- Mae’n gwneud i rywun deimlo’n gynnes tu mewn – Dafydd Du yn dweud wrth ‘Golwg’ gymaint mae’n mwynhau darlledu ar fore Nadolig. “Mae lot o bobol ddim efo’u teuluoedd fore dydd Nadolig. Maen nhw’n licio rhoi cyfarchion iddyn nhw dros y radio, hyd yn oed teulusydd yn byw i ffwrdd o Gymru ac efallai’n gwrando ar y we neu beth bynnag,” meddai.
- Dwi byth yn siŵr a ddylwn i ddymuno Nadolig tangnefeddus i bobl oherwydd dyw e byth bron iawn yn troi mas felly. Ond fe allai ddymuno llawenydd i bawb yng nghanol y llanast, a phob bendith gan Dduw y pethau bychain, cyffredin a rhyfeddol – Archesgob Caergaint, Y Gwir Barchedig Rowan Williams, yn ei neges Nadolig.
- Mae'r pethau y gofynnir i chi a'ch teuluoedd eu gwneud yn unigryw, a natur eich swydd yn wahanol i unrhyw fath arall o waith. Mae pob un ohonoch yn gorfod gwneud rhywfaint o aberth bersonol bob dydd – Neges Nadolig Carwyn Jones i’r lluoedd arfog.
- Mae’n llawer gwell gen i fod yn feddyliwr rhydd ac yn gerdyn y gellir ei ddefnyddio i gryn effaith – Lembit Opik yn hapus mai fel y Jocar mae o’n ymddangos mewn pac o gardiau chwarae gwleidyddol newydd lle mae Rosemary Butler yn frenhines y calonnau, Lloyd-George yn bedwar diemwnt, Neil Kinnock yn bedair calon a James Callaghan yn naw calon.
- Cefais sioc aruthrol – Mark Hobbs o Abertawe yn darganfod cerdyn Nadolig cant oed.
- Roedd yna gefnfor rhwng yr Alban a Chymru ac roedd Cymru yn bellach i'r de nad yw heddiw - Dr Lucy Muir yn trafod darganfodffosiliau 460 miliwn o flynyddoedd oed mewn chwarel ym Mhowys.
- Nid yw Kate y lesbiad yn gydnaws ychwaith a’r Kate Roberts yr oedd nifer ohonom yn ei hadnabod. Ein profiad ni ywbod Kate wrth ei bodd yng nghwmni dynion ifanc – Vaughan Hughes yn Barn mis Rhagfyr / Ionawr yn ymateb i ddyfaliad cofiant Alan Llwyd bod Kate Roberts yn hoyw gan ychwanegu “bod yn well o lawer gan Kate Roberts gwmni dynion na chwmni merched” ac iddi “ymddwyn yn dra annymunol tuag at ferched”.
- Roedd o’n obsessed efo Cynan, a’r mwyaf o beints roedd o’n eu cael y mwyaf roedd o’n gofio o’i gerddi fo. Roeddan nhw’n llifo allan ohono fo – Tara Bethan, yn ‘Golwg’yn cofio’i thad, Orig Williams.
- Efallai byddai'n rhaid cyfaddawdu ac aros mewn un lle pob yn ail flwyddyn . . . ac un posibilrwydd yw . . . Llanelwedd, achos yno mae'r Sioe Frenhinol, a'r Maes a'r holl gyfleusterau – Yr Athro Gerald Holtham yn ymateb i’r golled o £90,000 a wnaeth Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam.
- Y mae pob iaith yn agor drysau. Mae’r Gymraeg yn agor calonnau hefyd – Gareth Williams o Florida yr Unol Daleithiau, arweinydd Cyfeillion Cymru o Dramor yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam eleni yn cael ei ddyfynnuyn rhifyn yr hydref o ‘Yr Enfys’.
- ‘Cyfrifiadur’, achos doeddwn i ddim yn gallu ei ddweud pan oeddwn i’n dysgu! Dwi’n hoffi ‘Ardderchog’ hefyd - Aixa Orive, yn dewis ei hoff air yn rhifyn Rhagfyr o ‘Clecs Camwy’, papur bro Dyffryn Camwy ym Mhatagonia.
- Da iawn Cymru. Gobeithio y bydd yr Alban a Lloegr yn dilyn yn fuan er mwyn achub mwy o fywydau – Richard Branson yn cael ei ddyfynnu yn ‘Y Cymro’ yn canmol cynlluniau Llywodraeth Cymru ynglŷn a rhoi organau.
- Jonsi yn cyflwyno y goreuon o raglenni ‘Cnex’ ar S4C . . . Jonsi ar ei orau, mor hyderus ac mor secsi. Presant Dolig gwerth chweil – Morwena Williams, Pentraeth, mewn llythyr yn ‘Y Cymro’.
- Fyswn i’n ffantastig, fyswn i’n gallu bod yn ddistaw, os fyswn i’n siarad efo pobol ddiddrol – Eleanor Burnham y cyn AC yn dweud wrth ‘Golwg’ pam y byddai hi’n berffaith fel cadeirydd ‘chat show’ ar y radio neu’r teledu. Ac ydi, mae hi yn chwilio am waith!

