« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Cerddoriaeth 2013

Categorïau:

Lisa GwilymLisa Gwilym|12:42, Dydd Mercher, 2 Ionawr 2013

Helo a blwyddyn newydd dda!

Dwi'n edrych 'mlaen at flwyddyn arall o gyflwyno cerddoriaeth newydd o bob math ar C2. Ond ar ddechre 2013, mae'r sefyllfa rhwng y BBC ac EOS am olygu newidiadau i'r rhaglen. Ar hyn o bryd, fydd C2 ddim ond ymlaen am awr bob nos, a fydda i ddim yn gallu chware popeth fyddwn i'n ei wneud fel arfer.

Yn amlwg, mi ydw i a gweddill y criw yn gobeithio y bydd ne gytundeb teg yn dod yn fuan, ac y cawn ni barhau i roi llwyfan i'r holl gerddorion talentog 'da ni'n mwynhau cyd-weithio hefo nhw. Yn y cyfamser, mi ydw i a'r criw am wneud yr hyn y gallwn ni i sicrhau fod y gynulleidfa'n cael gwasanaeth mor gyflawn ac y gallwn ni, a bod yr artistiaid sydd wrthi'n cyfansoddi, recordio a rhyddhau ar hyn o bryd yn cael cymaint o sylw ac sy'n bosib o dan yr amgylchiadau, a'r cyfyngiadau.

Felly, mi fydda i'n blogio yn ystod y cyfnod, yn dod a newyddion o'r sîn, ac yn rhannu lincs i wefannau cerddorion, deunydd newydd, gigs ayyb. Yn y blog nesa, dwi'n gobeithio son rhywfaint am albym Siddi, ac EP Sensegur.

Dwi nol ar C2 nos fercher am 7. Blwyddyn newydd dda!

Lis

x