Nebula - Enillwyr Brwydr y Bandiau 2012!!
Llongyfarchiadau enfawr i Nebula ar gael eu coroni yn bencampwyr Brwydr y Bandiu 2012.
Bu gwrandawyr BBC Radio Cymru yn pleidleisio yn eu miloedd ledled Cymru neithiwr (nos Fercher, Ebrill 18) gan goroni Nebula yn bencampwyr cystadleuaeth Brwydr y Bandiau Mentrau Iaith Cymru / C2 Radio Cymru 2012.
Wedi wythnosau o frwydro cerddorol a pherfformiadau safonol, dim ond pedwar band oedd yn sefyll ar gyfer y frwydr olaf un - Nebula (o Abertawe), Fast Fuse (o Abertawe), Sgidie Glas (o Landysul) a Tymbal (o Gaerfyrddin). Roedd y bandiau yn dibynnu'n llwyr ar bleidleisiau'r gwrandawyr i benderfynu pwy ddaw i'r brig.
Darlledwyd y rownd derfynol neithiwr ar rhaglen Lisa Gwilym, C2 BBC Radio Cymru lle gafodd y gwrandawyr y cyfle i glywed traciau a recordiwyd yn arbennig mewn stiwdio broffesiynol a chael clywed barn y panelwyr swyddogol - Elin Fflur, Guto Brychan ac Ywain Gwynedd.
Mae Nebula yn derbyn y canlynol fel gwobr:-
* cytundeb i recordio Sesiwn i C2, Radio Cymru (fel arfer 3 cân)
* perfformio mewn Gŵyl fawr genedlaethol megis Maes B, yr Eisteddfod Genedlaethol
* perfformio yng Ngŵyl Sŵn 2012
* perfformio ar lwyfan y Pentref Ieuentid, Sioe Frenhinol 2012
* chwarae yng Ngŵyl Gwydir
* cael erthygl 'tudalen-lawn' yn un o rifynnau o gylchgrawn 'Y Selar'
* sesiwn luniau hanner diwrnod gyda ffotograffydd proffesiynol
* cynnig i chwarae mewn gigs Mentrau Iaith Cymru

Y newyddion diweddaraf am gerddoriaeth, gigs, artistiaid a mwy gan griw C2.