Nebula Yn Bencampwyr Cystadleuaeth Brwydr Y Bandiau
Bu gwrandawyr BBC Radio Cymru yn pleidleisio yn frwd ledled Cymru neithiwr (nos Fercher, Ebrill 18) gan goroni Nebula, o Abertawe, yn bencampwyr cystadleuaeth Brwydr y Bandiau Mentrau Iaith Cymru / C2 Radio Cymru 2012.
Adrenalin gan Nebula
In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit BBC Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.
Wedi wythnosau o frwydro cerddorol a pherfformiadau safonol, dim ond pedwar band oedd yn sefyll ar gyfer y frwydr olaf un - Nebula (o Abertawe), Fast Fuse (o Abertawe), Sgidie Glas (o Landysul) a Tymbal (o Gaerfyrddin). Roedd y bandiau yn dibynnu’n llwyr ar bleidleisiau’r gwrandawyr i benderfynu pwy fyddai’n dod i’r brig.
“Mae’n anodd egluro sut ni’n teimlo - mae’n gam nesaf mawr i ni. Mae’n anodd cymryd cam fel hyn yn y byd cerddoriaeth. Gethon ni 10 allan o 10 gan Elin Fflur ac mae fe’n deimlad gwych. Diolch anferthol i’r gwrandawyr - wnaeth cymaint o bobl helpu ni ledaenu’r neges, felly diolch iddyn nhw hefyd. Ni nawr ffaelu aros i recordio’r ail-sesiwn gyda C2. Mae rhaid dweud, yn edrych nôl, roedd y sesiwn recordio cyntaf yn brofiad gwych,” meddai Llŷr o’r band Nebula.
Darlledwyd y rownd derfynol neithiwr ar raglen Lisa Gwilym, C2 BBC Radio Cymru, pan gafodd gwrandawyr y cyfle i glywed traciau a recordiwyd yn arbennig mewn stiwdio broffesiynol yn ogystal â barn y panelwyr swyddogol - Elin Fflur, Guto Brychan ac Ywain Gwynedd.
Mae Nebula yn derbyn y canlynol fel gwobr:-
• cytundeb i recordio Sesiwn i C2, Radio Cymru (fel arfer 3 cân)
• perfformio mewn Gŵyl fawr genedlaethol megis Maes B, yr Eisteddfod Genedlaethol
• perfformio yng Ngŵyl Sŵn 2012
• perfformio ar lwyfan y Pentref Ieuenctid, Sioe Frenhinol 2012
• chwarae yng Ngŵyl Gwydir
• cael erthygl 'tudalen-lawn' yn un o rifynnau cylchgrawn 'Y Selar'
• sesiwn luniau hanner diwrnod gyda ffotograffydd proffesiynol
• cynnig i chwarae mewn gigs Mentrau Iaith Cymru
Am wybodaeth bellach, ewch i bbc.co.uk/radiocymru/c2/safle/brwydrybandiau
Aelodau’r band Nebula: Llŷr Thomas (llais / gitar), Ifan James (gitar flaen), Gareth Thomas (bas / keys), Daniel Gough (gitar rhythm), Will Mason Jones (dryms)
Fideo Proffil Nebula
In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit BBC Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.
Cyn enillwyr Brwydr y Bandiau:
2011: Sian Miriam (Llangefni)
2010: Yr Angen (Abertawe)
2009: Nevarro (Llanelli)
2008: Yr Offbeats (Crymych)
2007: Amheus (Llanymddyfri)
2006: Coda (Crymych)
2005: No Star (Wrecsam)
2004: Java (Llandysul)
2003: Eryr (Botwnnog)

Y newyddion diweddaraf am gerddoriaeth, gigs, artistiaid a mwy gan griw C2.