Rhaglen arbennig heno.....
Helo!
Heno am 8 - cyfle arall i glywed Geraint Jarman yn dewis 'Caneuon i...' a chriw Newyddion y Sin yn trafod uchafbwyntiau cerddorol 2011.
Helo!
Heno am 8 - cyfle arall i glywed Geraint Jarman yn dewis 'Caneuon i...' a chriw Newyddion y Sin yn trafod uchafbwyntiau cerddorol 2011.
Gruff Rhys yn perfformio fersiwn Nadoligaidd Gyrru Gyrru Gyrru a recordiwyd yn stiwdio Grace Williams yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yn arbennig ar gyfer y rhaglen 'Dolig Huw Stephens.
Huw Stephens fydd yn cyflwyno cerddoriaeth fyw gan Al Lewis, Gruff Rhys a Jen jeniro ar Noson Nadolig.
In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit BBC Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.
Huw Stephens fydd yn cyflwyno cerddoriaeth fyw gan rai o artistiaid gorau Cymru ar Noson Nadolig. Recordiwyd y noson yn stiwdio Grace Williams yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.
Dyma Al Lewis yn perfformio cân ac ysgrifennwyd yn arbennig ar gyfer y rhaglen.
In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit BBC Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.
Ar y rhaglen heno am 8 ... Creision Hud yn gwneud sesiwn byw yn y stiwdio.
Edrych ymlaen...!!
Helo!
Ar y rhaglen heno am 8 - Lowri Elen ydi'r nesa yn y Gadwyn Coleg, a Ceri Phillips fydd yn trafod Newyddion y Sin ar ol naw o'r gloch.
A heno da ni isio i chi ddisgrifio'ch blwyddyn mewn 3 gair!!
Cofiwch hefyd am raglen nos fory - pan fydd Creision Hud yn gwneud sesiwn byw yn y stiwdio. Edrych ymlaen...!!
Helo!
Ar y rhaglen - heno am 8 - Ffion Llwyd ydi'r nesa yn y Gadwyn Coleg, ac fe fydd Dewi Snelson yn trafod cryno ddisg newydd amlgyfrannog - DEUDDEG.
'Dach chi wedi gorffen eich siopa Nadolig? Heno 'da ni isio gwybod be ydi'r presant Nadolig gwaetha gawsoch chi?!
Helo!
Ar y rhaglen heno am 8 - Fflur Dafydd fydd yn dewis 'Caneuon i...' ac Iwan Standley fydd yn trafod Newyddon y Sin.
Albym yr wythnos ydi ENDS - Euros Childs, ac fe fydd Katie o Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe yn dewis can gwaith cartref.
Ychydig wythnosau yn ol, fe wnes i sgwennu blog yn rhestru'r holl gynnyrch gwych oedd wedi ein cyrraedd ni - fel ffordd o ddiolch i'r holl artistiaid am eu creadigrwydd anhygoel.
Rhaid i mi ddeud - mae'r cyfnod yma cystal, os nad gwell, gyda phob math o gerddoriaeth newydd anhygoel i'w glywed ar y rhaglen - ee:
• Albym newydd hynod fachog Yr Ods
• Ail albym Huw M - sy'n hyfryd.
• CD newydd gan yr arloswyr arbennig Llwybr Llaethog
• ...ac aros ym myd hip-hop - albym Mr Phormula.
• Fe laniodd albym Yr Angen yn y swyddfa ddoe.
• Neigwl - albym newudd Dan Amor.
• Y Niwl yn rhyddhau albym ar vinyl 180g.
• Mae EP Newydd Georgia Ruth Williams wedi ein cyrraedd.
• EP AM DDIM gan Penpastwn - prosiect newydd Richard James.
• Ges i'r pleser o chwarae sengl newydd Sensegur neithiwr - gwych!
• Caneuon Nadoligaidd Plant Duw
• Tracia cynta Mattoidz ers blynyddoedd.
• Eilir Pierce yn gyrru caneuon Nadoligaidd!
• Can Saesneg gan Cowbois Rhos Botwnnog sy'n hynod brydferth.
• Trac fendigedig gan Osian Howells.
• Sesiynau gwych Euros Childs a Y Bandana i Huw Stephens
• Heb anghofio holl sesiynau TRAC - ee Race Horses a Greta Isaac
Felly diolch yn fawr iawn i'r grwpiau a'r artistiaid am eu gyrru - ac os gewch chi gyfle, cliciwch ar rai o'r lincs uchod i fynd i wrando a phrynu!
Lis
x
Helo!
Ar y rhaglen - heno am 8 - Ian Cottrell fydd yn dewis 'Caneuon i...' a Bethan Lloyd fydd yn trafod Newyddion y Sin.
Fe gawn ni gan arall oddi ar albym newydd Mr Phormula - FORWARD THINKING, ac fe fydd Amy o Ysgol Ardudwy yn dewis can gwaith cartref.