« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Anrhegion Nadolig Cerddorol

Categorïau:

Lisa GwilymLisa Gwilym|13:30, Dydd Mawrth, 13 Rhagfyr 2011

Ychydig wythnosau yn ol, fe wnes i sgwennu blog yn rhestru'r holl gynnyrch gwych oedd wedi ein cyrraedd ni - fel ffordd o ddiolch i'r holl artistiaid am eu creadigrwydd anhygoel.

Rhaid i mi ddeud - mae'r cyfnod yma cystal, os nad gwell, gyda phob math o gerddoriaeth newydd anhygoel i'w glywed ar y rhaglen - ee:

• Albym newydd hynod fachog Yr Ods

• Ail albym Huw M - sy'n hyfryd.

• CD newydd gan yr arloswyr arbennig Llwybr Llaethog

• ...ac aros ym myd hip-hop - albym Mr Phormula.

• Fe laniodd albym Yr Angen yn y swyddfa ddoe.

• Neigwl - albym newudd Dan Amor.

Y Niwl yn rhyddhau albym ar vinyl 180g.

• Mae EP Newydd Georgia Ruth Williams wedi ein cyrraedd.

• EP AM DDIM gan Penpastwn - prosiect newydd Richard James.

• Ges i'r pleser o chwarae sengl newydd Sensegur neithiwr - gwych!

• Caneuon Nadoligaidd Plant Duw

• Tracia cynta Mattoidz ers blynyddoedd.

Eilir Pierce yn gyrru caneuon Nadoligaidd!

• Can Saesneg gan Cowbois Rhos Botwnnog sy'n hynod brydferth.

• Trac fendigedig gan Osian Howells.

• Sesiynau gwych Euros Childs a Y Bandana i Huw Stephens

• Heb anghofio holl sesiynau TRAC - ee Race Horses a Greta Isaac

Felly diolch yn fawr iawn i'r grwpiau a'r artistiaid am eu gyrru - ac os gewch chi gyfle, cliciwch ar rai o'r lincs uchod i fynd i wrando a phrynu!

Lis

x