Cymysgu alcohol a diodydd egni:
Ma' cymysgu alcohol a diodydd egni wedi dod yn rwbeth arferol iawn ar noson allan. Y peryg gyda hyn yw bod y person sy'n yfed y diod ddim yn sylweddoli faint ma' nhw'n meddwi oherwydd yr egni ma'r diodydd yma yn rhoi iddynt. Dyma fwy o wybodaeth .
https://www.alcoholconcern.org.uk/alcohol-concern-in-action/projects/alcohol-concern-cymru/news/Drinkers-urged-to-wise-up-about-alcohol-and-energy-drinks?lang=cy
Pobl ifanc yn defnyddio'r we i drafod alcohol:
Ma' pobl ifanc yn aml yn defnyddio'r we I drafod pethau nad ydynt yn teimlo'n gyfforddus I drafod mewn bywyd go iawn neu gyda person 'go iawn'. Dyma mwya o wybodaeth I chi felly am ble allwch chi drafod materion fel alcohol a chyffuriau yn ddi-enw ac yn gwbwl anhysbys
https://www.alcoholconcern.org.uk/alcohol-concern-in-action/projects/alcohol-concern-cymru/news/new-media-new-problem-using-the-internet-to-promote-alcohol?lang=cy
Nawdd gan gwmnÏau alcohol i chwaraeon a gwyliau cerddoriaeth:
Dros y blynyddoedd mae cynnydd enfawr wedi bod yn y cwmniau alcohol sy'n noddi chwaraeon a gwyliau cerddoriaeth.
Mae adroddiad newydd gan Alcohol Concern Cymru yn tynnu sylw at y nawdd y mae'r diwydiant alcohol yn ei roi i ddigwyddiadau diwylliannol a chwaraeon yng Nghymru.
https://www.alcoholconcern.org.uk/alcohol-concern-in-action/projects/alcohol-concern-cymru/news/drinks-industry-sponsorships-under-the-spotlight?lang=cy
Stafell Fyw yn cynnig bywyd newydd
Yn ddiweddar agorwyd canolfan driniaeth sydd yn cynnig gofal dydd, ddwyieithog i rai sy'n cael anhawster gydag alcohol, cyffuriau (ar bresgripsiwn neu'n anghyfreithlon), neu unrhyw ddibyniaeth arall. Yn aml mae cael y driniaeth a'r cymorth yn yr iaith Gymraeg yn help mawr I bobl.
Dyma'r linc I'r ganolfan newydd yng Nghaerdydd
https://www.livingroom-cardiff.com/
Gwynedd - Ni!
Gwefan yn cynnig cyngor cyfeillgar I bobl ifanc 16-25 mlwydd oed sydd yn poeni am broblemau alcohol a chyffuriau a phob math o faterion eraill all effeithio arna chi yn eich arddegau...
https://www.gwynedd-ni.org.uk/GwyneddNi/16-25/gn_16_25_dogfen.asp?cat=7101&doc=26287&Language=2
CAIS
"Nod CAIS yw gwneud newidiadau cadarnhaol ym mywydau pobl y mae cyffuriau ac alcohol yn effeithio arnyt, drwy amrywiaeth o wasanaethau a chefnogaeth a ddarperir gan staff medrus a phrofiadol, yn y gred y gall pobl newid a bod pobl yn newid"
https://www.cais.co.uk/
Siarad A Frank
Os ydych chi'n poeni am gamddefnyddio cyffuriau a chaethiwed i gyffuriau, gall y llinell gymorth Talk to Frank helpu.
Mae FRANK yn rhedeg llinell gymorth am ddim a gwefan sy'n esbonio sut y gall gwahanol fathau o gyffuriau effeithio arnoch. Gallwch gael cyngor cyfrinachol drwy ffonio 0800 77 66 00, saith niwrnod yr wythnos. Bydd y galwadau am ddim ac ni fyddant yn ymddangos ar eich bil ffôn, ond efallai y bydd yn rhaid talu os defnyddiwch ffôn symudol.
https://www.talktofrank.com/