@ebion: y rhaglen olaf
Heno am 10 o'r gloch fydd rhaglen olaf cyfres @ebion - cyfres sydd wedi bod yn rhedeg am ddeufis erbyn hyn ac yn trin a thrafod materion sy'n bwysig i bobl ifanc..
Dros yr 8 wythnos ddiwethaf ni di bod yn trafod pob math o bethau o ddelwedd i rywioldeb i'r iaith Gymraeg a llawer mwy.
Ond heno i ni'n gorffen gyda phwnc sy'n fwy perthnasol nag erioed.
Wythnos ddiwethaf datgelwyd yn y papurau newydd fod plant mor ifanc â deuddeg mlwydd oed yn yfed hyd at ddeunaw gwydred o win mewn wythnos, ac wythnos yma ma' hyd yn oed un o gystadleuwyr yr X Factor, Frankie Cocozza, sy'n ddeunaw mlwydd oed, wedi cael cic mas o'r X Factor am frolio am gymryd cocaine.
Y addas iawn felly, Cyffuriau ac alcohol yw'n thema ni ar @ebion heno a dros y ddwy awr fyddwn ni yn clywed am arferion yfed pobl ifanc ar draws y wlad, ei barn nhw am gyffuriau ag alcohol ynghyd a phrofiadau personol a chyngor gan arbenigwyr.
Yn ymuno a fi fydd Dafydd, dyn sydd bellach wedi gwella o'i ddibyniaeth ar alcohol ac sy'n benderfynol o rybuddio eraill am y peryglon.
Nes ymlaen hefyd bydd y Dr Ifanc Heledd Roberts yn ymuno a fi. Ma' Heledd yn ddoctor yn Uned Asesiad Meddygol yn Ysbyty'r Waun yng Nghaerdydd ac yn trin pobl gyda phroblemau alcohol a chyffuriau. Yn ôl y ffigurau, mae o leiaf 1,200 o blant yn ymweld ag unedau brys bob blwyddyn oherwydd alcohol neu gyffuriau.
Ar ôl I Heledd weld y cynnydd yn y bobl ifanc sy'n marw o effeithiau alcohol a chyffuriau, mae hi ei hun wedi stopio yfed a hithau ond yn 25ain mlwydd oed.
Os i chi'n teimlo eich bod am ymateb neu rannu profiad gyda ni ar @ebion heno, ma' groeso i chi neud a hynny yn gwbwl di enw.
Rhif ffôn 03703 500 500
Text 67500
FaceBook a Twitter C2 BBC Radio Cymru
Edrych 'mlaen i gael ei chwmni chi am 10 o'r gloch.
Nia xx

Y newyddion diweddaraf am gerddoriaeth, gigs, artistiaid a mwy gan griw C2.