« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Helo o Ysgol Tregib

Categorïau:

Magi DoddMagi Dodd|12:57, Dydd Mercher, 12 Hydref 2011

Helo!

Dyma ni yn Ysgol Tregib, Llandeilo yn cynnal gweithdy radio a gweithdy roc gyda help Mei Gwynedd o Sibrydion! 

Ysgol Tregib

Ysgol HYFRYD - a'r croeso 'di bod yn gynnes iawn. Hefyd - ma'n debyg bo 'na ginio dydd Sul ar y fwydlen yn y cantîn amser cinio - ac ma Tomos, Gruff, Trev a Mei yn glafoerio wrth feddwl am y wledd sy' o'u blaenau. Dwi ddim cweit mor awyddus! Criw y gweithdy roc wrthi'n cyfansoddi cân newydd - a chriw y gweithdy radio yn paratoi pecynnau am y sioe gerdd Hairspray, gobeithion tîm rygbi cymru - ac yn bwysicach fyth - gobeithion tîm hoci'r ysgol sy'n chware heno yn erbyn Ysgol y Frenhines Elizabeth!

Gewch chi glywed y cyfan heno ar Dodd Com - https://bbc.co.uk/c2 yn fyw am 7pm (wel - os dwi wedi llwyddo llusgo'r bolgwn or cantîn. Ma'n debyg bo' pwdine Ysgol Tregib yn ANHYGOEL. Gruff am gael 2! Soch Soch!)



Magi x