Gig Gruff Rhys yn Llandudno
Helo bawb!
Wel, mi ges i noson gofiadwy iawn neithiwr yn gwylio Gruff Rhys yn dechre ei daith yn Llandudno.
Mi oedd Gruff yn anhygoel o arbennig; mae o a'r Niwl yn swnio'n wych efo'u gilydd, ac yn briodas gerddorol berffaith!
Dwi 'di gweld Gruff unwaith yn barod yr haf yma, yng Ngwyl Gardd Goll, ac mi oedd o hefyd yn Pesda Roc - ond mi oedd o wir ar ei ore neithiwr, yn amlwg yn mwynhau, ac yn siarad yn naturiol ac yn ddoniol iawn rhwng caneuon.
Roedd 'na lot o uchafbwyntia, ond braf oedd cael fy atgoffa o ambell gân sydd wedi mynd yn anghof e.e Ambell Waith oddiar Yr Atal Genhedlaeth a Lonesome Words sydd ar Candylion. Mi fydda i'n chwarae'r ddwy ar y rhaglen heno am 8pm. Rhywbeth arall 'nath ddal fy sylwi i oedd y delweddau difyr a dramatig yn gefndir i'r cyfan. Sioe a hanner - ac eto, fe sonia i fwy am hynny heno.
Fe wnaeth Y Niwl brofi unwaith eto eu bod nhw'n gerddorion campus o dalentog - ond doeddwn i ddim wedi sylwi o'r blaen fod Alun Tan Lan a Sion Glyn yn canu lleisiau cefndir hyfryd hefyd. Fe wnes i fwynhau eu set nhw fel band hefyd - braf clywed ambell gân newydd fel 'undegnaw'. 'Da ni wedi cysylltu hefo Alun Tan Lan o'r grwp i weld os ydyn nhw wedi recordio hone, ond dim eto medda fo - mae'n nhw'n gobeithio cael digon o amser ar ol y daith i 'sgwennu ac i recordio caneuon newydd.
Gret oedd clywed Alun yn cyflwyno'r gan 'undegpedwar' drwy ddweud - "Some of you might be familiar with this track by now"; 'undegpedwar' ydy thema newydd Football Focus ar BBC ONE! Fe wnai chware hone heno hefyd!
I'r rhai sy'n mynd i'r gig yng Nghaerdydd ac am gael syrpreis - PEIDIWCH A DARLLEN DIM MWY - ond os da chi isho edrych ymlaen fwy byth, dyma'r caneuon wnaeth Gruff chwara yn Llandudno.
Hwyl, Lis x
Gwn Mi Wn
Candylion
The Court of King Arthur
In a House With No Mirrors (you'll never get old)
Pwdin Wy 1+2
Ambell Waith
Rhagluniaeth Ysgafn
Lonsome Words
If We Were Words
Sensations in the Dark
Vitamin K
Honey All Over
Ni Yw y Byd
Gyrru Gyrru Gyrru
Cycle of Violence
Shark Ridden Waters
Caerffosiaeth
Skylon!

Y newyddion diweddaraf am gerddoriaeth, gigs, artistiaid a mwy gan griw C2.