Elin Flur fydd yma heno am 8.....
Heno am 8 - Elin Fflur fydd yn cadw sedd Lisa Gwilym yn gynnes, ac ar y rhaglen heno.... Sgwrs hefo'r plymar - Meilyr Owain Hughes - i weld sut wythnos sydd ganddo fo ar y gweill, a Leah Owen Griffiths fydd yn rhoi trefn ar y dyddiadur.
Ep yr wythnos ydi TORRI CERFFIW - gan Jamie Bevan a'r Gweddillion, a chriw o Ysgol y Cymer sydd yn dewis can gwaith cartref wythnos yma.
A gan ein bod ni yng nghanol rygbi mania - 'da ni isio gwybod pwy oeddech chi'n meddwl oedd chwaraewr gorau'r gem rhwng Cymru ac Iwerddon fore Sadwrn?

Y newyddion diweddaraf am gerddoriaeth, gigs, artistiaid a mwy gan griw C2.