« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Bwlio - Be sydd gan yr heddlu i'w ddweud?

Categorïau:

Nia MediNia Medi|19:57, Dydd Mercher, 26 Hydref 2011

Mae pedwar Heddlu Cymru, mewn partneriaeth ag Addysg a Llywodraeth Cymru, wedi ymrwymo i gyflwyno Rhaglen Graidd Cyswllt Ysgolion Cymru Gyfan (RhGCYCG) i bob Ysgol yng Nghymru. Ar hyn o bryd caiff y Rhaglen ei haddysgu gan 85 o Swyddogion Heddlu dynodedig. (13 yma yn Heddlu Dyfed-Powys)

Mae i'r Rhaglen dri llinyn

· Camddefnyddio cyffuriau a sylweddau

· Ymddygiad cymdeithasol a'r gymuned

· Diogelwch

Mae'r rhaglen yn cynnig cynllun sbiral o wersi i ddisgyblion yn amrywio o'r ysgol gynradd i'r uwchradd - 5-16 oed.

BWLIO

Cyflwynir nifer o wersi i ystod o oedrannau sy'n ffocysu ar;

· adnabod effeithiau niweidiol bwlio

· datblygu strategaethau i ddatrys gwrthdaro a delio gyda bwlio

· gwerthfawrogi a dathlu gwahaniaeth ac amrywiaeth

· ymwybyddiaeth o hawliau dynol a chyfrifoldebau

Ym mis Medi eleni lawnsiwyd gwers arbennig ar gyfer Cyfnod Allweddol 2 gyda'r nod o godi ymwybyddiaeth o beth yw bwlio seiber.

Cyflwynwyd mewn partneriaeth gyda'r Ganolfan Camfanteisio ar Blant a'u Hamddiffyn (CEOP)

Yn ogystal a chyflwyno gwersi yn yr ysgolion, mae'r swyddogion yn cynnal sesiynau codi ymwybyddiaeth i staff, llywodraethwyr a rhieni fel bo'r galw. Os oes gan unrhywun bryderon neu gwestiynnau am fwlio yna cysylltwch â'r heddlu ar 101, neu edrychwch ar ein gwefan www.dyfed-powys.police.uk neu gwefan yswyddogol y rhaglen www.schoolbeat.org