Tina a Clebran
Newydd glywed fod Tina, sy'n ferch mewn cadair olwyn wedi cael ei gwrthod am dacsi wrth iddi baratoi am noson allan.
Os ydy chi wedi profi hyn, neu os oes gennych unrhyw fater arall o rhan trafnidiaeth nanableddsy'n effeithio arna chi yna dyma gyfarwyddiadau gan y llywodraeth o be I wneud nesa:
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'n ofynnol yn gyfreithiol i sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau i'r cyhoedd sicrhau eu bod yn hygyrch i bobl anabl.
"Corff statudol yw'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a'i rôl yw diogelu, gorfodi a hyrwyddo cydraddoldeb a chynnig cyngor ar achosion penodol o wahaniaethu posibl. Llinell gymorth y Comisiwn yng Nghymru yw 0845 604 8810 rhwng 8:00 am a 6:00 pm o ddydd Llun i ddydd Gwener neu gallwch anfon e-bost i [email protected]
CLEBRAN
Mae Clebran yn rhan o wasanaeth Barnardo's ar gyfer plant a phobl ifanc anabl rhwng 12 a 25 oed yng Ngwynedd i leisio eu barn ar y gwasanaethau maent yn eu defnyddio. Mae Clebran yn cyfarfod unwaith y mis ar ddydd Sadwrn fel arfer yn ardal Arfon, Dwyfor a Meirionydd.
Ma' criw clebran yn son am y materion sy'n ei wynebu nhw o ddydd I ddydd o rhan addysg, gwaith ac agwedd.
Dyma'I gwefan nhw os ydy chi a diddordeb neu am gymorth wrthynt:
Clebran

Y newyddion diweddaraf am gerddoriaeth, gigs, artistiaid a mwy gan griw C2.