Ffactor X2!
Heno ar Dodd Com fe wynebodd ddau o'r criw arbrawf seicolegol, cymdeithasol a "theleweledol" (a chyfangwbl anwyddonol) fydd yn rheoli eu bywydau rhwng nawr a'r Nadolig - Ffactor C2!
Bydd yn rhaid i Gruff wylio pob pennod, gwrando ar bob nodyn, darllen pob erthygl a dioddef pob pennod o the Xtra Factor wrth drochi ei hun ym mhopeth X-Factoraidd!
Ond bydd yn rhaid i Meic osgoi unrhywbeth i wneud hefo yr un oedd yn arfer bod yn dew ond bellach yn dennau o Take That, y Gwyddel gwallt gwyn, ffrind Dappy a'r un does neb yn gwybod ei henw o Destiny's Child...
Tybed pa effaith gaiff hyn ar fywydau'r ddau? Erbyn diwedd y cyfnod fydd Meic yn teimlo fod rhywbeth ar goll yn ei fywyd? A fydd Gruff yn llinell flaen sioe X Factor Live? A fydd Magi wedi ei chyhuddo o greulondeb yn erbyn ei chyd-weithwyr (nid am y tro cyntaf)?!
Byddwn yn dilyn 'siwrne' y ddau (dim cerddoriaeth a thros-lais cawslyd, gaddo*) dros y misoedd nesaf!
*"Sai'n gaddo dim!" - Magi

Y newyddion diweddaraf am gerddoriaeth, gigs, artistiaid a mwy gan griw C2.
SylwadauAnfon sylw
Pob lwc Gruff. Ddim yn gwybod os all e lwyddo yn y dasg yma!!! Pob lwc i Meic 'fyd (tasg tipyn haws fydden i'n dweud!!)