Am Sgidie Glas!
Mi fydd aelodau'r band, sy'n ddisgyblion yn Ysgol Dyffryn Teifi yn cyflwyno awr gyfan o Dodd Com nos wener. YN FYW. Felly mi all UNRHYWBETH ddigwydd. Ac o nabod y band, dyn ni ddim yn siwr os fydd stiwdio ar ôl yng Nghaerfyrddin ar ôl iddyn nhw fod yna - ond un peth ryn ni'n hollol siwr ohono - ma'n mynd i fod yn rhaglen fythgofiadwy!
bbc.co.uk/c2 yn fyw am 7
Rhaglen Lisa Gwilym heno am 8 - Dafydd Jones o Jen Jeniro yn dewis 'Caneuon i...' ac Iwan Standley yn trafod newyddion y sin.
Hefyd - ar drothwy Pesda Roc 2011 - da ni isio gwybod pa wyl ydi'ch ffefryn chi a pha wyl hoffech chi ei gweld yn dychwelyd eto? Cnapan, Miri madog, Y Faenol....??
Cysylltwch drwy Facebook neu Twitter
Heno ar Dodd Com fe wynebodd ddau o'r criw arbrawf seicolegol, cymdeithasol a "theleweledol" (a chyfangwbl anwyddonol) fydd yn rheoli eu bywydau rhwng nawr a'r Nadolig - Ffactor C2!
Bydd yn rhaid i Gruff wylio pob pennod, gwrando ar bob nodyn, darllen pob erthygl a dioddef pob pennod o the Xtra Factor wrth drochi ei hun ym mhopeth X-Factoraidd!
Ond bydd yn rhaid i Meic osgoi unrhywbeth i wneud hefo yr un oedd yn arfer bod yn dew ond bellach yn dennau o Take That, y Gwyddel gwallt gwyn, ffrind Dappy a'r un does neb yn gwybod ei henw o Destiny's Child...
Tybed pa effaith gaiff hyn ar fywydau'r ddau? Erbyn diwedd y cyfnod fydd Meic yn teimlo fod rhywbeth ar goll yn ei fywyd? A fydd Gruff yn llinell flaen sioe X Factor Live? A fydd Magi wedi ei chyhuddo o greulondeb yn erbyn ei chyd-weithwyr (nid am y tro cyntaf)?!
Byddwn yn dilyn 'siwrne' y ddau (dim cerddoriaeth a thros-lais cawslyd, gaddo*) dros y misoedd nesaf!
*"Sai'n gaddo dim!" - Magi
Yr wythnos hon mae Glyn Wise wedi bod yn brysur iawn yn ymgymryd a'i her Ar y Dôl neu Dere Nôl! - ymgyrch Dodd Com i'w helpu o ganfod gwaith nawr ei fod wedi graddio...
Gwynebodd dri gweithle gwahanol: Canolfan Great Dane Care yng Nghaerfyrddin, Ffatri Caws Cenarth a'r cyfle i arwain gwers fel athro gyda chriw Yr Urdd yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd. Bydd yr hanes i gyd i'w glywed ar Dodd Com nos Iau a nos Wener yr wythnos hon...

Glyn yn brysur wrth ei waith mewn canolfan sy'n gofalu am gwn - Great Dane Care, Caerfyrddin

...wnaethon ni grybwyll fod Glyn yn casau cwn?!

Mae Glyn yn gobeithio bod yn athro, tybed sut hwyl gafodd gyda criw BANG yn nghanolfan yr Urdd?
Roedd lleisiau gwahanol i'w clywed yn cyflwyno Dodd Com nos Wener - criw Ysgol Bro Ddyfi oedd berchen yr awr gyda'u dewis nhw o gerddoriaeth a jocs (gwael!)...
Bydd y rhaglen i'w clywed yma am y dyddiau nesaf:
Dodd Com Bro Ddyfi
Bu criw Dodd Com yn yr ysgol yn ddiweddar fel rhan o daith Disgos Diwedd Tymor C2 a chael lot o hwyl! Bydd llawer mwy o raglenni arbennig gan wahanol ysgolion, criwiau a bandiau i'w clywed dros y misoedd nesaf felly byddwch yn barod!
x
Nos Lun nesaf am 10 bydd sesiwn newydd sbon gan Rosary yn cael ei darlledu am y tro cyntaf ar raglen Huw Stephens. Arferai'r band gael ei anabod fel Y Cer a dyma'r deunydd cyntaf i ni glywed dan yr enw newydd!
Cafodd y dair can ei recordio yn stiwdio Ferlas, Penrhyndeudraeth dan ofal y cynhyrchydd Rich Roberts, ac mae'r sesiwn yn swnio'n wych!
Gwrando ar sesiwn Rosary
Ar y rhaglen heno fe fydd Elin yn cael sgwrs hefo Dion Lloyd Jones i drafod ei swyddi haf, ac fe fydd Mathew Bowden yn trafod y gemau cyfrifiadurol diweddaraf.
A da ni isio gwybod be ydi'r swydd haf waethaf gawsoch chi erioed?!
Heno mae criw Dodd Com yn croesawu Georgina Griggs i'r stiwdio fel cyd-gyflwynydd gwadd! Bydd Georgina yn edrych ar newyddion cerddorol y dydd ac yn adolygu'r ffilm Captain America gyda Sion Alun Williams o Ysgol Syr Huw Owen!
Byddwn ni hefyd yn rhannu rhai o esgusodion bandiau oedd fod i ryddhau cynhyrch newydd yn yr Eisteddfod wythnos dwethaf ond na wnaeth hynny... tybed beth fydd gan aelodau Twmffat, Violas ac Yr Angen i ddweud dros ei hunan?!
Ymunwch hefo ni yn fyw ar y wefan rhwng 7 ag 8!
Elin Fflur sydd yn cyfwlyno'r rhaglen heno, ac fe fydd hi'n noson gwis fel arfer. Hefyd fe fydd Elin yn sgwrsio hefo Angharad Williams sydd yn byw yn Nulyn.
mae 'na groeso i chi gysylltu hefo'r rhaglen hefyd - unrhyw negeseun, cyfarchion...
Heno ar C2 cafwyd sesiwn arbennig gan artist newydd, Tom Ap Dan.
Dyma Tom ap Dan yn perfformio 'alcohol' ar raglen Lisa Gwilym, ac yna 'Ffrind' ar raglen Daniel Glyn.
In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit BBC Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.
In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit BBC Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.
Gwyliwch mwy ar wefan Eisteddfod C2
Helo o Wrecsam!
Y band Bromas o Gaerfyrddin oedd yn y stiwdio efo criw Dodd Com yn gynharach.
Mi wnaeth 5 o enwogion Cymru osod 5 her i'r bechgyn i'w cwbwlhau cyn nos Wener.
Dyma nhw:
Her Nia Lloyd Jones - Dod a Pot Nwdl arbennig o'r gorlan sydd wedi ei baratoi i safonau Magi Dodd!
Her Iwan Huws (Cowbois Rhos Botwnnog) - Cael tynnu eu llun hefo Rapsgaliwn (Rapiwr gora'r byd, mae popeth mae'n ddweud yn odli o hyd) a caiff y criw farc bonws os cawn nhw hefyd wysgo ei het aur...
Her Al Lewis - Cael llofnod yr Archdderwydd... a 10 marc bonws os cawn nhw wysgo rhywfaint o'i bling!
Her Dafydd Iwan - cael eich hun ar y teledu a gweiddi'r gair "BLODFRESYCH"!!
Her Marc Griffiths - canfod ym mha babell ar y maes mae Marc yn gweithio; os byddwch yn llwyddianus yn yr her yma fe gaiff Bromas chwarae gig arbennig yno ddydd Gwener!
Bydd y bechgyn yn dychwelyd i stiwdio Dodd Com nos Wener i ddweud sut hwyl gafon nhw... POB LWC!!
Cofiwch wrando ar C2 ar FM drwy'r wythnos a Dodd Com ar y we nos Wener am 8.
Dyma Alun Tan Lan yn perfformio 'Adar' yn Ystafell Werdd C2 heno ar raglen Magi Dodd.
In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit BBC Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.
Gwyliwch mwy ar wefan Eisteddfod C2
Mae wythnos y Steddfod Genedlaethol wedi cyrraedd, ac mae C2 yn darlledu rhaglenni arbennig o gefn-llwyfan Maes B a heno o Gig Cymdeithas yr Iaith, Al Lewis Band a Daniel Lloyd a Mr Pinc. Alun Tan Lan bydd yn perfformio sesiwn yn ystafell Werdd C2 heno.
Neithiwr ar C2 roedd yna sesiwn fyw gan Aron Elias a Jaci Williams ar raglen Magi Dodd tra oedd Mr Huw yn perfformio'n fyw ar raglen Huw Evans.
In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit BBC Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.
In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash Installed. Visit BBC Webwise for full instructions. If you're reading via RSS, you'll need to visit the blog to access this content.
"i mewn i'r gol!"
Mae criw C2 wedi cyrraedd Wrecsam ar gyfer 'steddfod 2011!!!
Mae hi'n mynd i fod yn wythos hir a blinedig ond allwn ni ddim aros.
Wrthi'n paratoi ar gyfer y rhaglen heno ac mae'r pizzas newydd gyrraedd, felly mae Robin Bolgi Owain Jones yn hapus dros ben. Mi fydd o yn maes B drwy'r nos ar ein rhan ac mi fydda i Jeni yn dod a'r diweddara o'r maes i chi.
Mi fydd Jaci Williams, Aron Elias a Mr Huw yn yr ystafell werdd.
Magi fydd efo chi rhwng 8 a 10 ac yna Huw Evans 10 ac 1 o'r gloch y bore. Cofiwch wrando!
Wwwwww, cyffrous uffen (dyna maen nhw'n ddweud yn Wrecsam!)