« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Trafodaeth R.I.P SRG?

Categorïau:

Criw C2Criw C2|13:09, Dydd Iau, 24 Mawrth 2011



Yn dilyn nifer o erthyglau a sylwadau diweddar am dranc y Sîn Roc Gymraeg, bydd trafodaeth arbennig ar raglen Huw Stephens yn edrych ar ddyfodol cerddoriaeth yn yr iaith Gymraeg.

Bydd Huw a'i banelwyr yn trafod dyfodol gigio a'r sîn fyw, yr anghydfod PRS, cynulleidfaoedd Cymru, yr her sy'n wybebu unrhyw un sydd am ryddhau cerddoriaeth a llawer mwy.

Rydym am i CHI fod yn rhan o'r drafodaeth.

Bydd modd cysylltu ar y noson ar Facebook a Twitter a thrwy e-bostio a tecstio. Oes genych chi gwestiwn i'n panelwyr?

Y panel fydd:

Owain Schiavone: Golygydd Y Selar ac awdur yr erthygl 'R.I.P SRG'

Hefin Jos: Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig a rheolwr label Sbrigyn Ymborth

Dilwyn Llwyd: Trefnydd gigs a gwyliau 'Coll' a phrif leisydd Yucatan

Ymunwch â ni'n fyw am 10, nos Lun yr 28ain o Fawrth.