« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Cyfarchion Gŵyl Dewi

Categorïau:

Ifan EvansIfan Evans|18:01, Dydd Mawrth, 1 Mawrth 2011

Yn gynta, ga'i ddymuno dydd Gŵyl Dewihapus iawn i chi! Mae'n braf bod nôl yn y sedd fawr, a diolch yn fawr iawn i Dylan Ebenezer am gadw pethe i fynd tra mod i'n llenwi fewn i Daf Du wthnos dwetha. Ma gennai raglen llawn dop ar eich cyfer chi heno to, achos fy ngwestai arbennig yw'r athletwr Aled Siôn. Mae en brysur iawn yn creu enw i'w hunan, a dwi'n edrych mlan i gal sgwrs fach da fe nes mlan. Hefyd fydd yr anfarwol Owain Llŷr yma i drafod chwaraeon y penwythnos a lot mwy. Cofiwch wrando felly rhwng deg a hanner nos.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 13:21 ar 2 Mawrth 2011, Dafydd ysgrifennodd:

    "yr anfarwol Owain Llŷr..."? Argoledig! Mi fydde gan lot o bobl ddigonnedd o ansoddeirie i ddisgrifio Ows, ond dwi'n ame a fydde'r run ohonyn nhw'n ei alw e'n 'anfarwol'!