« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Unnos - Gangsta Pasta Rap

Categorïau:

Huw EvansHuw Evans|01:54, Dydd Mercher, 26 Ionawr 2011

Dwi newydd sgwennu blog ar ffurf rap.

Darllen e nol.

Atgoffa'n hun bo fi ddim yn ddeunaw bellach a ma'r fath na

o rwdlan ddim yn mynd i stickio.

Fel pasta sydd ddim yn barod, yn taro wal ac yn llithro lawr yn ddisymwth fel

mwydyn sydd newydd colli swydd a gorfod mynd adre ag egluro i'w wraig

ar plant pam di nhw ddim yn cal mynd ar wylie i'r vegetable patch drws nesa haf 'ma
.



DELETE DELETE DELETE.



Yn dilyn chydig o wrthdaro yn y stiwdio (nath un o'r aelodau defnyddio'r gair "tywallt" er

i Gwilym Unben Morus egluro fod defnydd o'r gair yma, a clymu carau sgidiau mewn

double knot, wedi'w wahardd) ma Gwilym wedi sackio pawb ond Steffan Cravos

a Ben y Basydd (sy'n eistedd yn y stiwdio yn crynu ac yn chwys doman tra bod Gwilym yn

martsio o gwmpas mewn par o long johns yn taro rhyw ffon anferth tra'n gweiddi

rhwbeth am atgyfodiad Anti Marian) a bellach yn rhoi offerynau taro lawr ar y 5

tsiam natho nhw recordio'n gynharach heno.



Pethau'n mynd yn dda felly.



Ma Crav yn stiwdio 8 yn rapio am y sefyllfa economaidd trychinebus sydd ar hyn o

bryd yn gorthrymu ysbryd ein cenedl ag yn......na....sori....mae'n rapio

am faint mae'n colli ei gariad.



Pethau'n mynd yn rili da felly.



Dwi'n mynd i daflu'n hun yn erbyn wal fel darn o basta.



hmmm.....falle sa'r rap na di bod yn well wedi'r cwbwl.



HE



O.N Joc yw (rhai) o'r pethau uchod, does na neb di cal y sack a dyw Gwilym ddim

lawr yw drons (eto). Pethau'n swnio'n wych er ei bod nhw braidd yn ara deg yn dod

at ei gilydd.



O.N.N Ma Cravos yn rapio am gymaint mae'n colli eu gariad, ciwt de.