« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Unnos3 - y stori hyd yma

Categorïau:

Criw C2Criw C2|03:19, Dydd Mercher, 26 Ionawr 2011

Ma hi'n 3.19am, felly maddeuwch i mi os nad ydw i'n gwneud synnwyr, ond mi o'n i'n meddwl byswn i'n trio crynhoi digwyddiadau heno. Dim ond Gwilym Morus a'r criw cynhyrchu sydd ar ol yn yr adeilad -mae'r cerddorion eraill i gyd wedi mynd adre... a dyma pam a sut, ac ym mha drefn.

Fe wnaeth Gwilym ddechrau drwy "jamio" ac yna recordio 6 track sylfaenol - yn cynnwys gitar drydanol, dryms, a bass. Fe aeth Zoot y drymiwr adra.

Ar ol hynny, fe wnaeth Henry recordio ei ddarn piano ar y 6 track yn eu tro - ac fe aeth o adra.

Tra'r oedd hyn yn digwydd, mi oedd Steffan Cravos yn sgwennu rap i fynd ar y tracia. Ar ol hynny, fe recordiodd Gwilym percussion ysgafn ar y 6 track. Mewn stiwdio arall, fe recordio Crav ei rap. Fe aeth o adre.

Mae'r criw sain wedi cyfuno'r 6 track offerynnol hefo raps Cravos, ac ar hyn o bryd mae Gwilym yn sgwennu geiriau i'w canu ar ben y traciau offerynnol + raps Crav i orffen y caneuon. Yna fe eith o adra....

... ac yna fe a i adra.

Cofion

Gar

(un o'r 2) Cynhyrchydd, Unnos