Trowsus yn tynhau!
Wythnos arall wedi hedfan heibo a dwi'n barod ar gyfer rhaglen llawn dop arall heno. Ma rhaid gweud dwi mewn hwyliau ardderchog gan fod Man Utd wedi curo Arsenal neithwr a nawr yn eistedd yn bert ar frig y gynghrair, gobeithio allwn ni aros fyna!
O ran fy ngyrfa bêl-droed i, tawel iawn yw hi 'di bod oherwydd y tywydd ers rhai wythnosau bellach, ond i ni (Pontrhydfendigaid) fod chware Aberaeron Dydd sadwrn - felly gobeithio fydd y tywydd mawr sydd fod cyrraedd Dydd Gwener yn cadw draw, achos ma ambell i bâr o jeans yn dechre mynd braidd yn 'snug' yn barod!
Ta beth, yr un fydd y drefn heno gen i - cerddoriaeth dda, digon o nonsens a ddwli gyda Owain Llŷr wrth i ni edrych nôl ar chwaraeon y penwythnos a fy ngwestai arbennig fydd Owain Phillips, un o gyflwynwyr y gyfres Hacio ar S4C, felly edrych 'mlan i fynd ar daith 'da Owain ar Ifan yr Injan! Cofiwch wrando de rhwng 10 a 12. Ciao for now!

Y newyddion diweddaraf am gerddoriaeth, gigs, artistiaid a mwy gan griw C2.