« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Arbennigwraig ffasiwn C2 yn caru Efrog Newydd!

Categorïau:

Magi DoddMagi Dodd|17:18, Dydd Iau, 1 Ebrill 2010

Helo Bawb!

Wedi tri mis o fod yn byw yn yr 'Afal Mawr' yma mae hi bellach yn saff i mi ddweud 'Dwi'n caru Efrog Newydd' (cymaint felly modi yn gweld yr angen i ailgreu y logo eiconig i'r Gymraeg!)

en1.JPG



Fel y gwnes i addo, dwi wedi bod allan ogwmpas y ddinas yn ymchwilio ar ran C2 ac yn cadw cofnod o lle sy'n cwl a lle sy'n boeth! Os oes yna unrhyw un yn bwriadu ymweld â'r ddinas mae hi'n werth mynd i weld y 'seits' ond dwi hefyd yn argymell i chi fynd ar goll i gael dwad ar draws ambell i le gwerth-chweil ond llai adnabyddus sydd heb ei gwneud hi i mewn i'r llyfrau tywys...

ny1.JPG

Tai Bwyta:

'Efo'r holl dai bwyta anhygoel ogwmpas y lle does'na ddim syndod fod na ambell i Americanwr ar yr ochor plwmp! Dwi wrth fy modd hefo'r 'fast food' - y 'krispy kreme' donughts, 'Reeses Pieces' siocled peanut butter a'r mcdonalds supersize! Ond os yda chi isho rhywbath tipyn mwy hamddenol ewch i gael crab roll bendigedig yn SushiSamba (87th 7th Ave), i gael 'brunch' unrhyw adeg or dydd neu'r nos yn Bubby's Tribeca sydd ar agor 24awr (120 Hudson Street) neu i gael 'Buffet' cymaint ac y gelli di fwyta wrth edrych ar olygfa anhygoel yn y bwyty troelli TheView (1535 Broadway, Times Sq).

ny2.JPG

Clybia Nos:

Yn y 'ddinas sydd byth yn cysgu' mae'r clwbia nos ar agor tan oria man y bora. Y 'meatpacking district' ydi'r ardal ora os yda chi'n chwilio am lawr disco, mae'r clwbia mawr fel Pacha (618 W. 46th St,) a Pink (527 W. 27th St.) yn dennu DJ's enwog ac yn aml gwelir cerddorion clasurol a cherddorion jazz yn chware'n fyw ar draws y beat dawnsio i greu awyrgylch arbennig a hollol cwl!

Ar y cyfan mae ffasiwn y clwbia yma yn llawer mwy hamddenol nac adra. Er enghraifft mae'r bechgyn yn cael gwisgo trainers gwyn gan fod y 'gangsta look' yn ffasiwn mor gryf - rhywbath sydd wedi ei wahardd mewn sawl clwb Prydeinig a mae'r merched yma yn gwisgo yn eitha syml hefyd sydd yn siomedig gan mod i wedi gobeithio gweld ffasiwn arbrofol 'Carrie Bradshaw' o gwmpas! Steil yr 80au sy'n trendi - Sgerti 'body-con' tynn a crysa-t llac wedi tycio i fewn, tebyg iawn i steil y siop 'American Apparel'. Tydi'r merched ddim bob amser yn gwisgo sodlau uchel i fynd i clwbio chwaith - penderfyniad gwirion iawn yn fy marn i gan fod sodlau yn gwneud i dy goesau di edrych yn hirach ac gan fod y dynion ar y drws yn aml yn gadael i ferched ffasiynol i fewn am ddim!

ny3.JPG

Cofiwch hefyd bod modd cyfuno clwbio a twristiaeth drwy fynd i lefydd fel 230th (230th 5th Ave) i fwynhau yr olygfa o'r tô, peidiwch a phoeni am fod yn oer gan bod nhw yn paratoi blancedi ac yn cynnig seidr poaeth i'w yfed! Os ydachi'n mwynhau awyrgylch mwy hamddenol ewch draw i Bleeker St i un o'r sawl tafarn sy'n darparu cerddoriaeth fyw (byddwch yn ofalus mae yno ambell un yn ddrud iawn ac yn disgwyl i chi dalu am bob 'set') Bar 55 (55 Christopher St.) yn ardal Greenwich yw fy hoff glwb jazz i. Tydio ddim yn lle crand na soffisdigedig ond i lawr yn y 'basement' bach tywyll yma rhwng 1 a 4 y bora y clywch chi jazz anhygoel.



Dyna i gyd am y tro, gobeithio y bydd hwn o help i chi, blog arall ynglyn a tips a'r llefydd gora i fynd i ymlacio yn ystod y dydd ar ei ffordd. Fasa'n well i mi fynd i siopa mewn enw ymchwil felly yn basa!

Hwyl, Lowri xx