« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Unnos: Ffarwel

Categorïau:

Huw EvansHuw Evans|06:32, Dydd Mercher, 17 Chwefror 2010

Mae hi'n ugain munud wedi chwech, a dwi'n trio 'ngore i sgwennu rhywbeth llawn teimlad ac emosiwn sy'n crynhoi pob dim sydd wedi digwydd dros y chwech wythnos ddiwethaf mewn i un blog hyfryd ar gyfer chi we-bobol Gymraeg.

Yn anffodus dwi llawer rhy flinedig.

Gwion yn canu ar gân ola'r sesiwn ar hyn o bryd - am gân i gloi'r gyfres. Dwi'n cymryd be ddudes i yn ôl yn fy mlog blaenorol, dwi'n meddwl fod o'n hollol mind-boggling fod y grŵp wedi llwyddo creu caneuon mor gymhleth ac wedi eu trefnu mor ofalus mewn cyn lleied o amser. Wedi bod yn bleser cael clustfeinio arnyn nhw drwy'r nos.

DA IAWN RH

A...

FFARWEL SESIWN UNNOS.