« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Unnos6: Llawenydd Heb Ddiwedd

Categorïau:

Criw C2Criw C2|09:27, Dydd Mercher, 17 Chwefror 2010

Clawr

Mae criw Sesiwn Unnos ar fin disgyn i gysgu yn y gornel am dridiau, ond rhaid cyhoeddi EP olaf y gyfres cyn hynny - a ni'n falch iawn o glywed bod Race Horses wedi crefftio campwaith at yr achlysur.

Mae na bedwar trac ar gael i chi glywed ar wefan C2, gyda thrac ychwanegol arbennig wedi'i gymysgu yn ystod yr un noson gan neb llai na Cian Ciaran o Super Furry Animals.

Llinos, Yng nghanol nos mae'n ganol nos, Ystlum y nos, Tiamalina, ac Unnos ydi enwau'r caneuon.

Ond dyw Sesiwn Unnos ddim cweit ar ben eto! Tiwniwch eich weiarles i Radio Cymru heno am 10 i glywed hanes Huw Evans yn treulio'r noson yn y stiwdio gyda'r band - neu ar yr iPlayer sgleiniog am wythnos a hanner wedyn.

A mi fyddwn ni nôl eto yn fuan gyda rhaglen o uchafbwyntiau'r gyfres.

Yn y cyfamser - beth oedd eich uchafbwyntiau chi? A beth yw'ch barn am ganeuon swynol Race Horses a'r holl artistiaid eraill wnaeth dderbyn her y Sesiwn Unnos? Tarwch eich sylwadau ar y blog hwn!