Unnos5: Y dechrau gorau eto?
Falla mod i'n rhoi fy nhroed fawr ynddi ac yn rhoi jinx ar yr holl beth, ond mae'r criw wedi dechra yn gyflym tu hwnt. Ma Sion Glyn wedi gosod ei stamp ar y gan gyntaf drwy chwara riff sy'n debyg i stwff Beatles adeg y White Album (diolch i Dyl Mei, sy'n rhan o'r criw, am y disgrifiad yna) ac mae pawb yn jamio o gwmpas gitar Sion; Gareth Bonello ar y banjo, Gwyneth ar gitar acwstic, Aled ar y bas a Pete yn chwarae'r drymiau yn ysgafn. Dechrau gwych!
Gar
Y newyddion diweddaraf am gerddoriaeth, gigs, artistiaid a mwy gan griw C2.
SylwadauAnfon sylw
wedi mwynhau pob sesiwn unnos hyd yn hyn ac yn edrych ymlaen yn eiddgar at glywed cynhyrchion heno ar ol deall eich bod wedi cael cychwyn da.
Pob hwyl.