« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Unnos5: Trwydded Deledu? Pah!

Categorïau:

Huw EvansHuw Evans|21:07, Dydd Mawrth, 9 Chwefror 2010

Trwydded Deledu? Pah!

Dwi'n dechre teimlo fel hen fenyw gwallgof sy'n ailadrodd hi hun bob wythnos ond dwi WIR YR yn credu mai wythnos yma fydd y gore hyd yn hyn. Pawb yn swnio fel se nhw di bod yn chware efo'i gilydd ers iddyn nhw fod yn eu clytiau.

'Steddodd pawb lawr a cychwyn chware, ag o fewn 5 munud oedd gyno ni gân country hyfryd efo Sterling Morrison o'r Velvets ar y guitar. Wedyn ar ôl tua 3 munud o hwna, rhyw ddiweddglo 2 gord psychedelic Brian Wilsonaidd. Perffaith.

Ar nodyn fwy pwysig, dwi heb fyta'n iawn a dwi'n teimlo'n wan. Dwi angen siwgwr a choffi a thatws a does na neb di dod â dim byd i fi eto. Can't get the staff etc etc.

Dwi ddim yn talu'n trwydded deledu i fi gal dod yma i'r BBC a cal yn nhrin fel pwdryn.

Och a gwae.

Ar nodyn fwy hapus, gan bod na neb arall efo diddordeb gwneud y clawr dwi am gynllunio un tebyg i hen recordiau llyfrgell y BBC.

Spancus.