« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Unnos5: Y clawr, gan Mr Huw Evans o Brestatyn

Categorïau:

Huw EvansHuw Evans|04:28, Dydd Mercher, 10 Chwefror 2010

Clawr

Dwi di bod efo cluniadur ar y nghoesau am y 5 awr diwethaf. Dwi'n gallu clywed sŵn fy ngobeithion o gael plant yn ffrio i ffwrdd yn ara deg.

Newydd orffen y clawr, dwi wedi talu teyrnged i hen recordiau llyfrgell y BBC, wel....dwi'n deud talu teyrnged... be dwi'n feddwl ydi ripio nhw off yn llwyr.

Pob hyn a hyn ma na griw o gerddorion yn crwydro mewn i'r ffreutur yn sôn am y gân nesa ma nhw am recordio - dwi'n meddwl falle gewn ni albwm heno...

Ma fy eyes fi'n hurtio.