« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Unnos5: nos da John Boy, nos da Mary Ellen

Categorïau:

Gareth Iwan|03:06, Dydd Mercher, 10 Chwefror 2010

Gareth a Gwyneth

Rhagor o luniau o'r noson

Mae hi'n 3.06am a dwi di hitio wal go iawn. Wedi blino'n lân, ac yn y cefndir ma Gwyneth Glyn a Gareth Bonello yn suo ganu ryw waltz araf deg hyfryd. Ma nhw'n mynd drwy eitha dipyn o offerynau heno - dryms, bâs, gitar a gitar acwstic yn eitha amlwg, ond hefyd soddgrwth, banjo, harmonica... ac ar hyn o bryd ma Gareth yn chwara thema'r Waltons ar yr harmonica. Nos da John Boy, nos da Mary Ellen.

Gar

x

DIWEDDARIAD Dwi newydd ddod o hyd i thema'r Waltons ar y we, a dio'm yn swnio ddim byd tebyg i be oedd Gareth yn i chwara. Siom. Dwi meddwl.