« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Geiriau'r ail gân

Categorïau:

Gareth Iwan|03:48, Dydd Mercher, 3 Chwefror 2010

Mae hi'n 3.48am, ac ma Mei Mac newydd orffen geiriau'r ail gân. Dyma'r bennill gyntaf:

Darlun

Awyr dinas dros baderau dynion,

a golau unig a rheg olwynion,

a stryd bach afiach a th'wllwch afon,

a dyn wrth wal yn torri ei galon.

Mae un gân wedi ei gorffen, un ar ei hanner, ac un heb ei chyffwrdd. Mae Geraint Ffrancon wedi gorffen ei drac o, felly dwi'n meddwl y bydd ganddom ni EP erbyn 9am. Da.

Gar

x