Archifau Tachwedd 2009

Albyms y Flwyddyn....(rhan 1)

Categorïau:

Huw StephensHuw Stephens|13:40, Dydd Iau, 26 Tachwedd 2009

Sylwadau (1)

Eitha Tal Ffranco - Medina (Klep Dim Trep)

Daeth ail albym Gruff a Daf allan eleni, efallai i lai o gynnwrf na'r gynta', ond yn albym llawn cystal. Roedd naiifrwydd Os Ti'n Ffosil wedi mynd ond roedd y mentro a'r caneuon yn dal yn amlwg ar ganeuon melodig, efallai'n fwy proffesiynol.

Ro'n i'n falch i weld eu perfformiad ola erioed yn Steddfod Bala, ar y maes, wrth i ganoedd fyta'i tsips a yfed cwrw melyn.

Mae ETF wedi gorffen gigio am dipyn, ond yn addo mwy o diwns yn y dyfodol.



Plant Duw - Y Capel Hyfryd (Slacyr)

Mae'n werth aros am albym fel hon. Pan ma band yn gigio am dipyn ac yn mynd dan eich croen, mae albym gan fand sydd eisoes wedi creu argraff yn syrpreis neis. Roedd y caneuon yn gryf, ag agwedd llai 'ffwrdd a hi' nag ar senglau blaenorol falle, yn dangos fod y band wedi aeddfedu heb golli angerdd, egni a tyndra.



Cate le Bon - Me Oh My (Irony Bored)

Fi'm yn meddwl i fi weld un papur newydd neu gylchgrawn heb adolygiad o albym cynta' Cate. Ie, albym gynta! Ni di cael y pleser o glywed cerddoriaeth Le Bon yng Nghymru ers dipyn, ond wrth ryddhau eu halbym cyflawn cynta', daeth mwy o sylw haeddiannol i'r gyfansoddwraig dalentog. Mae'n wir deud fod dim llawer yn swnio fel Cate ar hyn o bryd, wrth iddi gymsgu elfennau gwerinol, seicadelig, melodig a thywyll yn eu chaneuon.

Colorama, Euros Childs a'r Promatics

Categorïau:

Huw StephensHuw Stephens|15:04, Dydd Gwener, 13 Tachwedd 2009

Sylwadau (0)

Wel helo.

Yn ddiweddar es i i weld Colorama yn cefnogi Edwyn Collins. Mae Carwyn (Colorama) a'i fand yn wych iawn, mae na gerddorion anhygoel yn y band sy'n gwneud set byw ganddynt yn achlysur bob tro. Mae'n hawdd gweld pam fod Carwyn ym mand Edwyn Collins, cyn-ganwr Orange Juice (Rip it Up and Start Again) a sy'n siwr o fod fwya' enwog am yr hit 'Girl Like You'. Roedd caneuon newydd gan Colorama i chware, ac mae'r EP 'Magic Lantern Show' allan a gwerth ei chlywed.

Roedd Euros Childs yn cefnogi'r band 'Yo La Tengo' a'r daith fer yn ddiweddar. Es i'n excited reit a meddwl ma merch o'r enw Iola Tengo oedd ar daith a wedi gneud yn dda iddi hi eu hun! Roedd gweld Euros yn chware yn bleser pur. Fe yw fy hoff gerddor erioed; mae ei felodiau, ei eiriau, y syniadau sy'n treiddio trwy bob can yn chwythu fy mhen bob tro. Fel arfer, dim ond rhai caneuon oddi ar 'Son of Euro Child' (ei albym ddiweddaraf sydd dal am ddim i'w lawrlwytho o'i wefan - www.euroschilds.com) nath e chware, a'r gweddill yn ganeuon newydd. Pam cadw tiwns newydd nol pam allech chi rannu nhw gyda'r byd? Dyma pam fod Euros yn gerddor mor unigol, dyw e ddim yn meddwl tu fewn i focsus arferol.

A roedd gweld Y Promatics yn chware wythnos yma yn wych hefyd. Nhw ydi'r band sy wedi creu fwya o argraff eleni fi'n meddwl, diolch i'r EP '100 Diwrnod Heb Liw'. Mae eu dylanwadau yn rhyngwladol, a mae'n neis cwrdd a band newydd sy'n gwrando a chwilio am gerddoriaeth yn gyson. Hwn oedd ei gig cynta nhw tu allan i Gymru, a'r tro cynta iddyn nhw ganu yn Saesneg ar lwyfan. Roedd clywed tracs fel 'Seisnigeiddio' a 'Soho' yn wych, a'r un mor dynn a llawn egni ag ar eu CD. Da di'r Promatics de.

Nos Lun ar C2 mae'r cynhyrchydd Llion Robertson yn westai ar fy rhaglen, yn son am ei waith gyda SFA, Lostprophets, Gentle Good a mwy.

Nos Fawrth byd Emyr Glyn Williams o label Ankstmusik mlaen yn son am hunagofiant David R Edwards, 'Atgofion Hen Wanc'.

Bueno.

Gwefan newydd am gerddorion Cymru

Criw C2Criw C2|19:48, Dydd Mercher, 11 Tachwedd 2009

Sylwadau (0)

Mae cyfres newydd yn cychwyn am 10pm ar C2 heno, gyda rhai o fandiau ac artistiaid amlyca Cymru yn dod i'r stiwdio am awr i adrodd eu hanes, hel atgofion, a chwarae ychydig o glipiau a sesiynau o'r archif (ac ambell drac a sesiwn newydd hefyd!).

Anweledig

Ceri a Gai o Anweledig sydd yn y rhaglen gynta, felly tiwniwch i fewn i glywed sut gafodd y band ei enw, a phwy oedd yn gyfrifol am "ail-addurno" Clwb Pêl-droed Aberystwyth - ymysg straeon eraill. Bydd y rhaglen ar gael ar yr iPlayer am y 7 diwrnod nesaf.

Mae'r gyfres yn cyd-fynd â lansio gwefan newydd /cerddoriaeth - sy'n cynnwys mynegai o brif artistiaid cerddorol yr iaith Gymraeg, gyda gwybodaeth am eu hanes a chefndir, a dolenni hawdd at dudalennau perthnasol ar wefannau'r BBC. Eisiau gwybod pryd oedd sesiwn diweddara Sibrydion (a gwrando arni?) - bydd y manylion ar eu tudalen /cerddoriaeth.

Ni 'di ychwanegu rhyw 40 o broffeils hyd yma, ar artistiaid yn amrywio o Huw Jones i Llwybr Llaethog, a bydd mwy yn ymddangos dros yr wythnosau a misoedd nesa. A gyda chydig o lwc, fyddwn ni'n parhau i ychwanegu at y safle am byth, wrth i fandiau ac artistiaid Cymraeg newydd ddod i'r amlwg!

Beth ych chi'n feddwl o'r safle? Pwy sy'n haeddu sylw nesa? Rhowch eich sylwadau ac awgrymiadau yn y blwch sylwadau!

Calan Gaeaf hapus yn A & E

Glyn WiseGlyn Wise|10:48, Dydd Iau, 5 Tachwedd 2009

Sylwadau (0)

Nos Wener es i allan ar noson codi arian i'r Prince's Trust. Roeddwn yn beirniadu cystadleuaeth tebyg i'r X Factor yn Tiger Tiger Caerdydd. Roedd y safon yn wych, llawer o ddawnsio, canu, chwerthin a siampen. Ond, mae siampen yn beryg pan yn cymysgu â chwrw a gwin! Roeddwn yn dawnsio yn wallgo i Kim Wilde 'Keep Me Hanging On (sad dwi'n gwybod)! yna, mi wnes i lithro ar hyd y llawr gyda fy nghoesau yn codi uwch fy mhen. Edrychais fel Charlie Chaplin. Yna, fe wnes i lanio ar ben fy mhenelin a chwerthin! Ond, pan godais ar ddiwrnod calan gaeaf roedd fy mhenelin fel pel tenis!



Cerddais i A & E gyda penelin poenus. Roedd gweld yr holl bobl mewn gwisg ffansi calan gaeaf yn ddoniol. Roedd yn anodd gwybod os oedd rhai mewn poen a wedi brifo go iawn, neu eu gwisg ffansi gwaedlyd nhw oedd yn realistic!

Un peth wnaeth fy syfrdanu i fwy na dim oedd yr holl drafferth oedd gweithwyr yr NHS yn ei wynebu gyda meddwon gwyllt a phobl hen di-fynadd yn adarn ddamweiniau'r ysbyty. Maen rhaid i fi gyfaddef fy mod wedi ennill parch aruthrol i ddoctoriaid a nyrsus ar ôl fy mhrofiad yn A & E.

Tra yn yr ysbyty cefais x-ray ar fy mraich, ond diolch i'r drefn doeddwn i ddim wedi torri yr un asgwrn, ond cefais dabledi i gael gwared o'r chwydd.



Neithiwr fe es i gyda'r clwb athletau i ymarfer rhedeg clwydi 100m. Nid oeddwn yn gwybod bod merched a dynion yn cael clwydi o wahanol maint, felly pan oeddwn yn cystadlu yn ras y dynion, sylweddolais fod y clwydi yn rhy uchel a disgynais a glanio ar fy mhenelin unwaith eto. UGH!!!!

Dwi wedi crafu croen fy ngarddwn a fy nghoes. Gret! Ond, dwin gwybod bod pethau drwg yn digwydd fesul tri felly, gwyliwch allan Gaerdydd fyddai ar fy mhen unwaith eto.

Hwyl xx

Mr Nice a Clinigol - am gyferbyniad!

Nia MediNia Medi|19:37, Dydd Mercher, 4 Tachwedd 2009

Sylwadau (0)

Helo! Shwmae? Heb sgwennu ers ache fi'n gwbod, allen i ddod lan a llu o esgusodion am hyn ond y gwir yw dwi jyst wedi bod yn ddiog...

Ond ta beth, ma da fi 'treats' gret i chi ar gyfer Nos Iau a Nos Wener, sef remix o un o ganeuon Clinigol yn ei chware am y tro cyntaf Nos Iau, a Mr Nice sef Howard Marks ei hun yn cynnig tracie i'w chware ar gyfer slot DJ yr wythnos Nos Wener yma!

Yn ddiweddar fe lawnsiwyd stiwdios fantastic newydd yng Nghanolfan ITV yng Nghaerdydd gyda'r cynhyrchydd John Rea wrth y lliw. Mi oedd John yn gyfarwydd fel cyfarwyddwr Cerdd y rhaglen 'Sesiwn Hwyr' flynyddoedd yn ol ar S4C, a hefyd yn gyfrifol am greu 'soundtrack' y cyfres 'Coalhouse' ar gyfer BBC.

Yn ogystal a bod yn brysur yn cyfansoddi a chynyrchu cerddoriaeth ar gyfer rhaglenni teledu a ffilmiau di-ri, mae e hefyd wedi bod yn cynhyrchu sesiynau ar gyfer Radio 1 Xtra, a hefyd gweithio gyda Charlotte Church ar brosiect cerddorol newydd.... gwyliwch y gofod!

Ond hefyd, fe na'th gynhyrchu'r trac 'Dim ond ti sydd ar ol' ar albym diweddar 'Clinigol', gyda Heather Jones yn canu ar y trac, ac yn ddiweddar mae e wedi cyfansoddi a cynhyrchu fersiwn acwstig newydd o'r trac brydferth yma. Mae'n fersiwn hollol wych ac mae ei waith piano ar y gan yn hollol syfrdanol, felly cofiwch wrando Nos Iau i glywed y trac am y tro cyntaf ar C2!

Ma Howard Marks hefyd yn paratoi ar gyfer rhyddhau ei lyfr nesaf 'Tripping' ac wedi cymryd amser mas i ddewis cwpwl o tracs i chware Nos Wener - trip mawr amdani ar gyfer y penwythnos de!

Tan Nos Iau xx

Albym newydd Endaf Emlyn

Categorïau:

Criw C2Criw C2|11:45, Dydd Mercher, 4 Tachwedd 2009

Sylwadau (0)

Helo

'Chydig bach o newyddion i chi! 'Da ni wedi derbyn caneuon newydd Endaf Emlyn - y caneuon newydd cyntaf ganddo ers Dawnsionara yn 1981. Bydd yr album "Deuwedd" allan ar label Sain ar Dachwedd 23ain. Dyma gynlluniau Radio Cymru i gyflwyno'r caneuon:

Iau

Eleri a Daf 8.30am - cyfle cyntaf i glywed un o'r caneuon newydd

Lisa Gwilym/C2 10pm - cyfle i glywed mwy o ganeuon o'r album newydd

Gwener

Richard Rees/Rebecca 6.30am - can o'r album newydd

Jonsi 2pm - sgwrs hefo Endaf am yr album (hwn fydd y cyfweliad cyntaf gan Endaf am yr album ar unrhyw gyfrwng)

Gadewch i ni wybod be da chi'n feddwl o'r caneuon!

Diolch

Gar