« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Albyms y Flwyddyn....(rhan 1)

Categorïau:

Huw StephensHuw Stephens|13:40, Dydd Iau, 26 Tachwedd 2009

Eitha Tal Ffranco - Medina (Klep Dim Trep)

Daeth ail albym Gruff a Daf allan eleni, efallai i lai o gynnwrf na'r gynta', ond yn albym llawn cystal. Roedd naiifrwydd Os Ti'n Ffosil wedi mynd ond roedd y mentro a'r caneuon yn dal yn amlwg ar ganeuon melodig, efallai'n fwy proffesiynol.

Ro'n i'n falch i weld eu perfformiad ola erioed yn Steddfod Bala, ar y maes, wrth i ganoedd fyta'i tsips a yfed cwrw melyn.

Mae ETF wedi gorffen gigio am dipyn, ond yn addo mwy o diwns yn y dyfodol.



Plant Duw - Y Capel Hyfryd (Slacyr)

Mae'n werth aros am albym fel hon. Pan ma band yn gigio am dipyn ac yn mynd dan eich croen, mae albym gan fand sydd eisoes wedi creu argraff yn syrpreis neis. Roedd y caneuon yn gryf, ag agwedd llai 'ffwrdd a hi' nag ar senglau blaenorol falle, yn dangos fod y band wedi aeddfedu heb golli angerdd, egni a tyndra.



Cate le Bon - Me Oh My (Irony Bored)

Fi'm yn meddwl i fi weld un papur newydd neu gylchgrawn heb adolygiad o albym cynta' Cate. Ie, albym gynta! Ni di cael y pleser o glywed cerddoriaeth Le Bon yng Nghymru ers dipyn, ond wrth ryddhau eu halbym cyflawn cynta', daeth mwy o sylw haeddiannol i'r gyfansoddwraig dalentog. Mae'n wir deud fod dim llawer yn swnio fel Cate ar hyn o bryd, wrth iddi gymsgu elfennau gwerinol, seicadelig, melodig a thywyll yn eu chaneuon.

SylwadauAnfon sylw

  • 1. Am 21:50 ar 17 Rhagfyr 2009, David Bryer ysgrifennodd:

    Cytuno efo albwm Cate le Bon - da iawn, ond meddwl odd hi di rhyddhau caneuon gwell ar ep ceffyl benthyg a drag me down / disappear - gweddill yr albyms yn gret, yn enwedig SFA a Huw M. Pryd mae albym Jakokyak allan?