« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Michael Jackson

Categorïau:

Criw C2Criw C2|15:04, Dydd Mercher, 1 Gorffennaf 2009

Doeddwn i ddim yn ffan enfawr o Michael Jackson (er mai Bad oedd yr albym gynta i mi ei brynu erioed), ond byddai'n anodd iawn gwadu ei gyfraniad, felly nos Wener dwytha nes i benderfynnu peidio darlledu'r rhaglen Lisa roedde ni wedi ei recordio yn barod, ac yn hytrach gwneud rhaglen fyw i ddathlu cerddoriaeth Michael Jackson, yn nghwmni 3 cerddor Cymraeg sy'n ffans enfawr - Eilir Pierce, Dewi Foulkes a Dyl Mei.

Fe allwch wrando eto yn fama!

Mae'r stori am fam Eilir yn rhwygo ei bosteri Michael Jackson yn arbennig o ddoniol, ynglyn a honiadau Dyl Mei fod Jackson wedi "prynu" y moonwalk gan hogyn bach yn Brazil