Magi
Wedi cael penwythnos anhygoel, wedi partio gormod, yfed gormod a dawnsio'n wyllt fel idiot. O ganlyniad, rwyf wedi gosod her if y hun i beidio mynd allan am wythnos, ac yn barod rwyn dechrau teimlo'r effaith.
Enillais mewn gem tennis senglau i ddynion heddiw, 6-4, 6-2, ar ol cael hyfforddiant ar sut i chwarae'r foli. Mae ennill yn rhoi boddhad am weddill y diwrnod ac oherwydd fy mod i'n berson cystadleuol, mae ennill yn osgoi y dioddef ar poen o anhapusrwydd pan rwyn colli, hahaha!
Ond, mae rhaid i mi son am ddigwyddiadau nos Lun. Aeth criw C2 allan i'r Bae yn Gaerdydd am fwyd. Yn gvyntaf aethom i gyd ar 'meri-go-round' sydd ger y senedd. Er syndod, roedd bron enw pawb arno roedd yno Glyn, Sian, Mair, Owain, Robin ond na, nid oedd yno Magi. Anlwcus. Roedd yn braf mynd arno, roedd yn mynd a fi'n nol if y mhlentyndod yn Butlin's Pwllheli. Ar y llaw arall, roeddwn yn gobeithio pan o ni arno nad oedd neb yn fy adnabod a gwaeddi 'big kid' arnaf!
Ond, uchafbwynt y noson oedd bod mewn tacsi ar y ffordd i glwb nos gyda Robin, Owain a Magi. Roedd y gyrrwr yn gyrru'n wyllt a roedd Magi yn eistedd yn ganol y ddau gynhyrchydd yn gwneud ei cholur. Eisteddodd yno gyda twb mawr o bowdwr 'blusher' drud ar ei glin gan afael mewn drych yn un llaw ar 'blsher' yn y llaw arall. Ond, gyrrodd y gyrrwr yn sydyn dros 'bwmp cyflymder' gan wneud i'r powdwr ddisgyn dros dillad Magi. Dwi erioed wedi chwerthin gymaint yn gweld Magi yn eistedd yno debyg i 'prawn' efo'r holl powdwr pinc ar ei hyd. Ond, pinicl y noson oedd y gyrrwr tacsi yn gweiddi bod rhaid iddi dalu ffein am wneud llanast. Haha ac ymateb Magi oedd 'It's only make-up'. Diolch Mags, mi wnes di wneud fy noson!

Y newyddion diweddaraf am gerddoriaeth, gigs, artistiaid a mwy gan griw C2.