Traciau newydd exclusive gan James Dean Bradfield a Patrick Jones
Heno ar raglen Lisa Gwilym mi fydd 'na gyfle ecsgliwsif i glywed traciau newydd sbon gan y bardd Patrick Jones (brawd Nicky Wire) ar y cyd hefo James Dean Bradfield o'r Manics.
Mae Patrick yn gymeriad diddorol iawn, ac ar gyfer y CD newydd mae o wedi bod yn cyd-weithio hefo pobol fel Billy Bragg, Henry Priestman, a Nicky a James Dean Bradfield o'r Manics. Mae'n gaddo eich "cyffroi a'ch symud" gyda'r casgliad newydd 'ma, ac fe fydd Lisa'n chwarae dwy gan ar y rhaglen heno. Mae'r traciau dwi wedi glywed hyd yn hyn yn wych - geiriau grymus Patrick, a gitar bigog, finiog, staccato James yn gefndir perffaith.
Os fysa chi'n licio gweld Patrick yn perfformio rhai o'r darnau, mi fydd yn cefnogi Billy Bragg ar ei daith o Gymru, ac fe fydd yr albym yn cael ei lansio yng Ngwyl y Gelli ar Fai 25ain.
Fe allwch glywed y trac gyda Billy Bragg ar raglen Adam Walton ar BBC Radio Wales
Hefyd ar raglen Lisa heno, mwy o draciau newydd gan Eitha Tal Ffranco, ac artistiaid yr wythnos ydy The Me Me Me's

Y newyddion diweddaraf am gerddoriaeth, gigs, artistiaid a mwy gan griw C2.