« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Big Brother 10

Categorïau:

Glyn WiseGlyn Wise|11:11, Dydd Iau, 23 Ebrill 2009

'Hiya,

Wedi cael diwrnod gwych heddiw, deffrais am 5 y bore er mwyn mynd i Lundain, ar gyfer sioe Big Brother 10 fydd yn dechrau yn yr haf. roedd rhaid gwneud lluniau od a lliwgar ar ei gyfer. Od a lliwgar, o ie!

Cwis fydd y sioe lawnsio , un o'r rowndiau fydd 'a ydych chi'n cofio y pobl hyn?,' lle fydd lluniau rhai ohonom yn dod ar y sgrin. Ond, roedd rhaid i ni fodelu ac ail greu lluniau enwog, felly David Beckam a rhyw foi o Holloaks oeddwn i.

Eisteddais gyda crys a trons amdanai ar gyfer y llun cyntaf. Roeddwn yn digon hapus, ond yna roedd rhaid tynnu fy nhrons a gafael mewn pel i guddio fy 'hmm-hmm'. Am y tro cyntaf, doeddwn i ddim yn gwybod beth i'w ddweud. Roedd sefyll yn hollol noeth o flaen 12 person mewn stiwdio yn brofiad od a bythgofiadwy. Roeddwn yn teimlo fel y boy 'mr muscle, loves the dirt you hate' gan fy mod i'n dennau. Mi wnaeth les i fy hyder, a buaswn yn argymell i pawb wneud yr un peth. Dwi'n poeni am y llun terfynol. Beth mae Mam yn mynd i ddweud...?